III. Cradoc, Powell, ac Edwards.
Dywed "Llyfryddiaeth y Cymry mai Walter Cradoc a Vavasor Powell fu yn offerynol i gael argraphiad 1654 o'r Bibl Cymraeg allan. Ond dywed Dr. Llewelyn, "Yr ydym yn ddyledus am yr argraphiad hwn i Mr. Charles Edwards, awdwr y llyfr Cymraeg a elwir Hanes y Ffydd." Mae yn bosibl fod y tri hyn yn cydweithio yn y gorchwyl anrhydeddus o gael chwe' mil o gopïau o Air Duw i'w cydgenedl, yn awr pan oedd Cymru i raddau wedi deffro, ac yn estyn ei dwylaw am dano.
Walter Cradoc ydoedd un o Anghydffurfwyr boreuol Cymru. Ganed ef yn Nhrefela, Llangwm Uchaf, Sîr Fynwy, tua 'r flwyddyn 1600. Derbyniodd ei addysg yn Rhydychain, a bu yn gurad yn Llanbedr y Fro a Chaerdydd; ond ataliwyd ef i bregethu am na fuasai yn darllen "Llyfr y Chwareuon" yn yr eglwys ar y Sabboth. Cafodd ei droi allan yn 1633. Bu wedi hyn yn gurad yn Wrexham. Ond cododd ei weinidogaeth danllyd erledigaeth yn ei erbyn, a gorfu iddo ymadael. Teithiodd ar hyd Gymru gan bregethu yn mhob ardal, a dychwelyd llawer at yr Arglwydd. Parodd