Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

terfysgoedd y wlad iddo ef a'i gydweithwyr adael Cymru. Buont yn Bristol am dro, ac wedi hyny yn Llundain. Bu ef am rai blynyddau yn gweinidogaethu yn All Hallows, yn Llundain. Yn 1646 dychwelodd i Gymru, a threuliodd weddill ei oes yn ei ardal enedigol, yn Nhrefela, lle y bu farw Rhagfyr 24, 1659. Bu yn pregethu ddwy waith o flaen y Senedd. Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau yn ystod ei fywyd; ac ail gyhoeddwyd hwynt gan Charles o'r Bala, ac Oliver o Gaerlleon, gyda hanes bywyd yr awdwr, yn 1800.

Ganed Vavasor Powell yn Cnwc Glâs, Sîr Faesyfed, yn 1617, o deulu parchus. Gorphenodd ei addysg yn Rhydychain. Cafodd ei arwain i ffordd iachawdwriaeth yn benaf trwy weinidogaeth Cradoc, a daeth yn gydymaith iddo yn ei lafur a'i ddyoddefiadau fel pregethwr teithiol. Yr oedd yn bregethwr selog a thanllyd iawn, yn meddu ar ddoniau anarferol, a'i lafur yn ddiball. Ar doriad allan y rhyfel cartrefol ffodd yntau o'i wlad. Bu yn Llundain, alleoedd eraill yn Lloegr, am bedair neu bum' mlynedd. Dychwelodd eilwaith i Gymru, mor selog ag erioed. Bu am yspaid yn gaplan yn myddin' y Brenin. Yn 1649, bu yn pregethu o flaen Arglwydd Faer Llundain, a'r flwyddyn