ganlynol o flaen y Senedd. Ar esgyniad Charles II. daeth ei erlidwyr arno, cymerasant ef i fyny, a bwriasant ef yn ngharchar. Mor gynted ag y cai ei draed yn rhyddion, pregethai eilwaith, a gwrthodai gydymffurfio a chymeryd y llwon. Bu yn garcharor yn Nhrefaldwyn fwy nag unwaith, ac yn ngharchar Amwythig. Wedi hyny am ddwy flynedd yn ngharchar Fleet Street, Llundain; ac wedi hyny yn ngharchar Portsmouth am bum' mlynedd. Byddai yn pregethu yn muarth y carchar, ac amryw yn myned i'w wrando. O'r diwedd, gwanychodd ei gaethiwed iechyd ei gorph. Bu farw yn y carchar Hydref 27ain, 1670, yn yr 11eg flwyddyn o'i garchariad, y 33ain o'i weinidogaeth, a'r 53ain o'i oedran. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf unplyg, gonest, caredig, a haelionus yn ei oes. Arferai ddyweyd fod ganddo le mewn gwelyau i ddeuddeg yn ei dŷ, i gant yn ei ysgubor, ac i fil yn ei galon. Cyhoeddodd nifer mawr o lyfrau.
Nid oes nemawr ddim o hanes Charles Edwards ar gael; ond y mae ei lyfr rhagorol ar "Hanes y Ffydd" yn golofn arosol o goffadwriaeth iddo. Mae y Parch. Walter Davies yn dyweyd iddo gael ei eni yn Rhydy-