Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

croesau, yn mhlwyf Llansilin, Sir Dinbych. Dywed John Edwards, Ysw., o Great Ness, yr hwn a honai fod yn berthynas iddo, nad oedd ond un Charles yn y teulu, ac i hwnw gael ei eni yn Cynlleth, yn yr un sîr, ac mai mab ydoedd i Robert Edwards. Beth bynag, y mae yn sicr ei fod yn ysgolor Cymreig uchel, yn Gristion dysglaer, ac yn wasanaethwr selog i'w genedl, mewn pethau ysprydol.

IV. Stephen Hughes.

Ganed y Parch. S. Hughes yn nhref Caerfyrddin oddeutu y flwyddyn 1622. Mae hanes boreuol hwn hefyd dan len. Dywedir iddo ddyfod i bersoniaeth Meidrym, yn Sir Gaerfyrddin, yn 1645, ac y mae ei gân ragymadroddol i "Lyfr y Ficer" yn awgrymu iddo fod yn gwasanaethu yn mhlwyf Merthyr, yn yr un sir. Yn y flwyddyn 1662, trowyd ef allan o'r eglwys; ond yr oedd yn cael ei oddef yn achlysurol i bregethu yn yr eglwysi plwyfol ar ol yr adferiad. Yn fuan ar ol ei droad allan o'r Eglwys, priododd ddynes dduwiol o Abertawy, a daeth i fyw yno, lle treuliodd weddill ei oes lafurus. Parhaodd i deithio trwy Sir Gaerfyrddin, fel cynt, i bregethu trwy yr holl wlad,