Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Denbigh, yr hwn oedd mewn cysylltiad a thy masnachol pwysig yn Buenos Ayres £100. Penderfynodd y Llywodraeth yn garedig iawn roddi 140p yn fisol i'r sefydliad tuag at gael lluniaeth a hadyd, a bod y rhodd hon i barhau hyd y cynhauaf yn nechreu 1867. Fel hyn, wedi bod yn Buenos Ayres am amryw fisoedd, a bod yn hynod lwyddianus yn ei neges, dychwelodd Mr. W. Davies yn ol yn y llong oedd yn dwyn y lluniaeth, a'r llong fechan a brynwyd hefyd i'w ganlyn, yn ngofal rhai o ddwylaw y llong arall. Cafodd Mr. Davies, fel y gellir dysgwyl, dderbyniad calonog a chroesawgar lawn gan y Gwladfawyr wedi gweled ei lwyddiant, yn enwedig wedi gweled y llong oedd ganddo erbyn hyn yn eiddo y sefydliad yn gyfangwbl, ac i fod with law mewn adeg o daro. Yn ystod absenoldeb Mr. Davies yn Buenos Ayres, yr oedd rhai yn rhy bryderus i ddechreu gwneud dim, dan yr esgus na wyddid eto beth a ddelai o honom, ond ereill mwy ffyddiog, ac o duedd fwy weithgar, a aethant o ddifrif i wneud tipyn o drefn ar bethau, er bod yn alluog i ddechreu trin y tyddyn mor fuan ag ydoedd modd. Yr oedd y tirfesurydd wedi mesur mapio y dyffryn ar yr ochr ogleddol i'r afon, ond nid oedd wedi mesur ar yr ochr ddeheuol ond yn unig dair fferm, am i'r afon orlifo, fel nad allai fyned yn mlaen gyda'r gwaith, ond yr oedd yma ddigon, a digon yn weddill, o dyddynod i bawb. Penderfynodd y Cyngor fod y tyddynodd i'w rhoddi allan i'r dyfodwyr trwy goelbren, neu roi tocynau mewn blwch, a rhif y tyddynod arnynt, a phob un gael y rhif a dynai allan. Ni roddwyd tocynau am yr holl dyddynod, ond y rhai hyny oeddynt o fewn y pymtheg milldir nesaf i'r mor.

Sefydlodd pawb fel rheol bron, yn nesaf at eu gilydd, fel ag i beidio bod yn rhy wasgafedig pe y dygwyddai rhyw ymosodiad oddiwrth Indiaid. Yn gynar yn y gwanwyn, aeth y rhan luosocaf o'r rhai oedd yn alluog i weithio, i barotoi y tir yn nechreu yr haf oedd yn dilyn. Nid oedd genym yr adeg hon ond nifer fechan o erydr, a nifer llai drachefn o geffylau a fedrai weithio yn rheolaidd. Nid oedd ond ychydig geffylar yn Neheudir America y pryd hwnw a fedrai weithio, am nad oeddid