Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr enw Parry & Co, ae y mae yn Gymro twymgalon yn gystal ag yn fasnachwr anturiaethus. Wedi iddo gael ymgon a Mr. E. Price yn nghylch y Wladfa, tybiai fod yno le gobeithiol i agor masnach. Mewn canlyniad, prynodd ty Rook Parry yr. "Irene," a danfonasant hi i lawr yn ngofal yr un Captain gyda llwyth o nwyddau amrywiol o dan ofal Mr. E. Price, gydag awdurdod i agor masnach dy yn y Camwy. Felly y bu, adeiladwyd ar unwaith ystordy bychan heb fod yn mhell o lan y môr, ac yno y gwerthid y nwyddau, ac y prynid gwenith, caws, ymenyn, pluf, a chrwyn yn gyfnewid am danynt. Dyma ddechreu masnach ar radd eang a sefydlog yn y Wladfa yn y flwyddyn 1874. Pan ddaeth y ddwy fintai i Buenos Ayres, yr oedd y llong "Irene" i lawr yn y sefydliad, ae felly buom yn aros yn Buenos Ayres am ei dychweliad, er cael myned i lawr gyda hi y daith nesaf. Buom yno hyd Gorphenaf ac yn y diwedd, pan yr oedd y llong yn barod i ail gychwyn, deallasom, er ein gofid, na fedrai ond tua haner y dyfudwyr fyned i lawr ar unwaith, a chan nad oedd llong arall i'w chael, fod yn rhaid i'r gweddill aros eto yn Buenos Ayres hyd ei dychweliad drachefn. Teg yw i mi yn y fan hon ddwyn tystiolaeth i haelioni, caredigrwydd, ac ymddygiad anrhydeddus y Llywodraeth 'Archentaidd trwy ei Bwrdd Ymfudiaeth. Yr oedd gan y Bwrdd hwn le neillduol i roi ymfudwyr, a elwid "Cartref yr Ymfudwr," yn yr hwn y byddai ymfudwyr yn cael eu bwydo a'u lletya yn ddigost hyd nes y celent waith, neu ynte gyfle i fyned i'r man hwnw o'r Weriniaeth a fwriadent fyned wrth gychwyn. Gan ei bod yn debygol y buasem yn gorfod aros yn hwy na dyfudwyr yn gyffredin, barnodd y Bwrdd yn garedig iawn y buasni yn well ein rhoddi ar ein penau ein hunain, mewn ty mawr a logwyd ar y pryd ar ein cyfer. Cawsom yma bob chwareu teg mewn lle cysurus, ac ymborth blasus yn ystod ein harosiad yn y ddinas, yr hyn a fu tua thri mis i rai o honom. Yr oedd yr oediad hwn yn ddiflas a phoenus i ddynion oedd wedi arfer bod yn weithgar, diwyd, ac enillgar, fel yr aeth rhai o honynt i weithio rhyw waith a fedrent wneud yn y dref i aros y llong i ddychwelyd. Wrth ddewis y rhai oedd i fyned i lawr i'r sefydliad yn ei siwrne gyntaf, cymerwyd y rheol i anfon dynion sengl, a'r penau teuluoedd mwyaf llawrydd, fel ag iddynt allu parotoi mewn