hwynt; ac mewn manau cerygog mai dodi carneddi arnynt wneid. (4) Man y mae hen gladdveydd—heb vod yn dra henavol y mae hyd yn awr bentyrau o sglodion callestr, penau saethau, penau tryveri, a gweddillion llestri pridd amrwd ond addurnol: ceir hevyd vwyeill ceryg, a morteri a phestlau. A oeddynt yn claddu eu meirw yn eu gwersylloedd? Ai llestri lludw cyrf yw y priddlestri ? Ai llestri ofrymau i'r meirw, yn ol devodau dwy neu dair canriv yn ol? Cavodd y gwyddonwr Moreno vými mewn cadachau, yn ol dull Perw, mewn ogov yn Santa Cruz, ryw 400 milldir i'r de o'r Wladva. Mewn carnedd wnaethid yn ovalus ar lan Llyn Colwapi, cavwyd gleiniau o gregyn mân iawn, a llinynau aur yn eu cydio. Mae Moreno yn ei lyvr am yr Arawcanod welsai eve rhwng y ddwy avon Neuquen a Limay, yn rhoddi adroddiad am draddodiadau gysylltent y bobl hyny gyda rhyw bobl waedlyd iawn, debyg i'r Mexicaid. Ond ni welwyd nemawr ddim o hyny yn y Tsonecod cawraidd. tawel. Mae ganddynt hwy ddevod arbenig, a'u cysyllta hwyrach gyda'r mymi Santa Cruz—sev i'r penaeth gerdded i'r avon hyd ben ei lin i ddisgwyl codiad yr haul, a pan ddelai hwnw i'r golwg, daenellu ychydig ddwr i wyneb yr haul," gan vwmian rhyw vath o weddi gyvarchwel. A oedd velly ryw gysylltiad rhwng y mỳmi Perwaidd—cartrev addoliad yr haul—â devod y Tsonecod i gyvarch codiad yr haul? Am y devodau diweddar arverid, diau eu bod yn gymysgedd o'u hen overgoelion, a choelion yr Arawcanod, a choelion Pabaidd. Claddent eu meirw yn eu heistedd, gan ddodi yn y twll gyda hwy eu harvau a'u celvi mwyav prisiadwy, a peth bwyd a diod: yna lladdent gefylau a chwn y marw gwleddent ar gig y cefylau a'r cesyg: llosgent ddillad ac addurniau y marw: torai y menywod eu gwynebau nes gwaedu a baeddu, ac oernadent alar mawr. Y mae cymaint dirywiad a chymysgiad arverion yn eu plith erbyn hyn, vel nas gellir bod yn sicr am eu devion priodi. Ond pan ddelai misglwyv cyntav llances, codai yr hen wragedd babell dywell, ymha un y cauent yr eneth wedi canol ddydd, ac y cwrnent ganu o'r tu allan. Pan ddelai'r nos gwneid coelcerth lachar gerllaw, a dawnsiai y dynion oddeutu'r goelcerth, ac am eu lwynau noethion arfedog o blu estrys gwynion wedi eu cyd-glymu; tra y tabyrddai'r benywod ar oferyn croen tyn, ac y cwrnent ganu. Cadwent hevyd wyl ar lawn lloer, a chwareuent gryn gampau.