XXII.
EGWYL CYN Y DDRYCIN.
Heblaw yr ormes swyddogol, yr oedd i'r Wladva y pryd hwn draferthion ac anhawsderau eraill lawer. Un o'r rheiny oedd methu cael meddiant o'r fermi, at yr hyn y cyveiria'r nodyn canlynol:—
At H. E.Welby, Ysw., Llys genad Prydain yn Buenos Ayres.Mae govidiau tirol y Wladva bron a bod yn anioddevol. Nid ydys eto (ymhen 14 blynedd) wedi cael meddiant o'r un tyddyn. Bu'r addewidion swyddogol mor aml a'r siomion. A'r hanes diweddav yw nad ydyw y mesurydd Dodds yn d'od yn ol. Yn ol y gyvraith wreiddiol rhoddid i bob un ferm o 25 cuadra (tua 100 erw) wedi dwy vlynedd o gyvaneddu. Yn 1868 cyvlwynais i'r Swyddva Gartrevol restr furviol o'r rhai oedd a hawl i ferm yn ol y gyvraith hono, ac oddiar hyny hyd yn awr yr wyv wedi gwneud yr un cais saith waith, pan ddelwn i'r ddinas yn swyddogol dros y Wladva. Yn Medi, 1875, pasiodd y Congres gyvraith arbenig arall yn rhoddi chwaneg o dir i'r sevydlwyr, a rhoddion haelach o dir i'r dyvudwyr newydd. Taenwyd y gyvraith newydd hon yn swyddogol (drwy Torromé) yn Nghymru, a daeth dyliviad o ddyvudwyr. Wedi hir oedi, cavwyd y byddai raid cwtogi y tiroedd addawsid, am nad oedd ddigon o fermi addas yn ol darlleniad y Prwyad ar y gyvraith. Addawyd yn bendant y pryd hwnw na byddai ragor o ymdroi, ac y rhoddid allan gyhoeddeb yr Arlywydd ar unwaith yn dynodi yr ad—drevniad, vel ag i bawb wybod am eu tir. Mae y tymor eleni eto ar dervynu, ac y mae'r dyvudwyr newydd (a'r hen) yn fermio ar y tiroedd bob yn vagad, gan vyw rywsut a rhywle nes y cafont wybod p'le bydd eu fermi: ac y mae byw velly yn anvoddhaol iawn, drwy beri cynhenau a llavur over lawer. Cyn cynhauav (Rhag.—Ion.), ac wedi dyrnu (Maw.—Chwev.), yw yr adegau priodol i godi tai, nid yn uig oblegid addasrwydd y tywydd, ond hevyd am.vod galw amserau eraill i lavurio'r tir. Y mae o 70 i 80 o sevydlwyr yn awr a llawn hawl i'r gweithredoedd; yn wir, 7 ac 8 mlynedd dros ben yr amser. Hevyd 300 ereill wedi aros 12 a 18 mis i wybod p’le mae eu tiroedd, vel y gallont ddechreu byw. Mae yr holl le velly mewn penbleth ac ansicrwydd y rhai taerav yn cydio yn y manau y mynont: croes hawlion yn dylivo i'r brwyadva: a'r bobl dawel, dangneveddus, yn gorvod dygymod â gerwinder ac anghyvleusdra o bob math. Chwaneger at hyny mai enwd salw a gavwyd (oblegid newydd—deb y gwaith i'r bobl a'r lle),