Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig vunudau—rai yn tavlu prilliad yn lled uchel. Lle bo frwd lled grev yn ymwthio o geseiliau neu agenau yn y creigiau, a hono yn ddigon grymus i gerdded gryn bellder, gwelir pysgod ynddi, ond y frwd yn colli ac yn darvod yn raddol, neu y dwr yn nawsio i vod yn helïaidd fel y gwanycha'r llygad. Nodwedd ryvedd yw y frydiau anghyvlawn hyn—lawer ohonynt heb na dechreu na diwedd, a elwir ar lavar gwlad yn "hen welyau". Dichon mai arllwysveydd y tymhorau gwlawog ydynt, ac yna yn madreddu yngwres yr haul nes bod y naws heliaidd ar eu dyvroedd merw oddiwrth yr halltedd sydd yn y tir. Gyda minion y merw—ddwr hwn tyv cyrs a hesg, ac y mae yn gyrchva i lawer o ednod gwyllt.

Ve ddeallir oddiwrth hynyna mai elven vawr hanvodol y Diriogaeth yw Dwr. Lle bynag y mae dwr yn y cyraedd, yno yw cyrchva dyn ac anivail. O gadwen vynyddig yr Andes lliva dyvroedd lawer—y tu gorllewinol (Chili) wlawogydd trymion aml, nes bod y wlad hono (o'i chanol i'w de) wedi ei mwydo'n barhaus. Peth o'r gwlawogydd hyny ddelir gan vrigau yr Andes a livant i lawr y llethrau dwyieiniol, ac a ireiddiant wregysau tyvianus tiriogaeth Chubut: eithr, ysywaeth y son, mae llaweroedd o'r frydiau hyny wedi medru y fordd yn ol i'r gorllewin (Chili) i'r avonydd mawrion sydd wedi ymwthio drwy vylchau yn yr Andes i wneud eu ffordd i'r Tawelfor. Pe buasai yr holl avonydd mawrion hyny i'r dwyrain (yn lle i'r gorllewin), newidiasid holl wedd tiriogaeth Chubut. Daethai avonydd mawrion y Caranlewfu a'r Corcovado (Batu—Palena) i ymyl Bro Hydrev, ond troant yn ol i'r Tawelvor yn ddyvroedd aruthr. Mae llynoedd mawrion Nahuel—huapi a Fontana, a tharddion y Chubut, gerllaw Chili, ond rhedant i'r dwyrain yn yr avonydd mawrion Rio Negro, Chubut, a Sin—gyr. Hawdd olrhain vel y llivai'r Corcovado i'r dwyrain mewn cyvnod daiaregol cymarol ddiweddar iawn, gan gyvuno gyda'r Chubut tua Teca.

Rhwng y Rio Negro (lled. 41°) a'r Chubut (lled. 43.15), nid oes frydiau rhedegog (oddigerth gwregys iraidd y Limay) ynhiriogaeth briodol Chubut. Velly y mae gogleddbarth y wlad, y tu hwnt i Banau Beiddio (hyd. 69°), yn gyvres o beithiau rhywiocach na'r peithiau deheuol: a chan hyny wedi bod yn gyrchvaoedd mawrion i'r brodorion gyda'u haniveiliaid ac i hela.

Mae un nodwedd ddaearyddol arbenig ar ddeheubarth y diriogaeth, sev Llynoedd Kolwapi ac Otron, lled. 45.50, ac o vewn rhyw 50 milldir i'r Werydd. Dangosir ar y mapiau megys petai amryw lynau eithr nid ydynt ond sych—lynau ag weithiau haenen deneu o ddwr ar eu manau isav. Ond mae y ddau lyn (Otron a Kolwapi) yn perthyn i'r avon grev Sin-gyr—y cyntav yn gronva greigiol o ddyvroedd gloywon, a pheth gover yn rhedeg ohono dros erchwyn ddwyreiniol i'r Sin-gyr, lle y gwna'r tro wrth anelu i'r badell vawr sydd yn myned dan yr enw