Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Kolwapi—enw brodorol yn arwyddo cwdyn neu dderbynva. Pan vydd y Sin-gyr yn grev bydd llyn Kolwapi yn gryn 60 milldir o amgylchedd. Ond dywedir ei vod ar adegau yn gwbl sych; tra hyny o ddyvroedd liva o'r Sin-gyr yn ymgolli yn y corsydd canghenog rhwng hyny ag Otron. Ar gyver arllwysva'r Sin-gyr y mae vel petai barhad o'r avon yn myned yn ei blaen o'r llyn, ond mewn gwely llai lawer, ac yn myned dan yr enw Iamacan. Pan sycho Kolwapi, ganol a diwedd hav, a gwyntoedd cryvion y tymor yn codi y llaid sych yn lluwchveydd tomenog nes tagu bala yr Iamacan, neu ymlunio yn gorsydd merw, mor belled ag y bo pwysau digonol i wthio'r avon ar ei gyrva tua'r Chubut. Tua haner fordd yr Iamacan i'r Camwy y mae pantle mawr, yn agor oddiyno am y môr yn y man elwir Camerones: ar waelod y pantle mawr hwnw, gysylltai yr Iamacan â'r Camerones, y mae rhedwely heliaidd yn arwain i'r môr, yn ol vel y bydd tymorau gwlawog a'r tarddiadau oddiar y llethrau yn ymarllwys i'r pantle.



Megys i acenu y sylwadau blaenorol parthed oll—bwysigrwydd "elven deneu ysblenydd" DWR mewn tiriogaeth sech vel y Wladva, rhoddir yma rai dyvynion o lawlyvr D. S. Davies am y gelvyddyd o ddyvrhau:—

"Ceir drwy ddyvriad lawer mwy o gnwd, ac yn vwy cyson—bob blwyddyn yn ddifael, a gellir poblogaeth luosocach ar bob milltir, a gwell iechyd nag a geir mewn un wlad ar y ddaear ag sydd yn dibynu ar y gwlaw am ei chynyrch.

"Y mae y tir o vath ag sydd yn derbyn gwres yr haul i ddyvnder mawr, a pheth o'r dyvnder hwn heb ond ychydig neu ddim lleithder, nid yw y gwres yn cael ei vwrw allan na'i leihau, eithr gwasanaetha velly i gynhesu y rhan a leithir gan ddyvriad, a'r amod hwn sydd yn rhoddi tyviant heb vawr o rwystr gan nad oes nemawr ddyddiau cymylog, niwliog, oer, na llaith. Wedi i'r gwenith gael ei ddyvrio yn ddigonol, ac iddo gael pen da, atelir y dwvr, i'r gwenith gael aeddvedu y mae'r gwaith hwn yn myned rhagddo yn ardderchog. Nid oes tywydd gwlawog i achosi y rhwd, na nosau oerion, llaith yn aravu dadblygiad y grawn trwy ei grebychu na'i vallu; ac â'r gweithrediad feryllol ymlaen yn ddirwystr i vuddugoliaeth."

"Yn Nhiriogaeth Utah y mae dyvriad wedi cyraedd y llwyddiant mwyav yn America. Y mae diwydrwydd medrus a phendervynol y Mormoniaid wedi gwneud i'r "anialwch vlodeuo megis rhosyn." Yn Great Salt Lake City, mae'r frydiau o'r mynyddoedd wedi cael eu dysgu i redeg trwy yr ystrydoedd, i vaethu eu coed cysgodol, a dylivo eu gerddi, a'u maesydd a vlodeuant o frwythlonder. Arwynebedd cyvrivedig y tiroedd