Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aradwy yw 268,000 o erwau, yr hyn, yn ol 640 enaid ar bob milltir petrual o dir dyvredig, a roddai gynhaliaeth i 402,000 o drigolion, ar gynyrch amaethyddiaeth. Dyvrir 134,000 o erwau—yr oll a drinir."

"Yn California gwelais gamlesi dyvriol wedi cael eu hagor gan y brodorion, dan gyvarwyddyd y Cenhadau Jesuitaidd. Ymhob Cenhadaeth Babyddol y mae y camlesi yn ymestyn am villtiroedd dros dir na chynyrchodd ddim cyn i'r frydiau advywiol hyn gael eu gollwng ar led drosto. Mae dylanwad cyfrous yr aurgloddiau, am beth amser, wedi aravu dadblygiad adnoddau amaethol California; ond nid yw yr amser ymhell pan y bydd yr oes euraidd" yn gwelwi o vlaen cyvundrevn berfaith o Ddyvriad; oblegid y mae hinsawdd, a gweryd, a dwvr y Dalaeth yn neillduol addas at hyny. Dygir proviad y mwnwyr ynhrosglwyddiad dwvr i wasanaeth amaethyddiaeth. Troir y dwvr sydd wedi ei groni gan natur i vaethu crasdir dyfrynoedd y Sacramento a'r San Joaquin, gan gyvoethogi yr amaethwr yn vwy na'r mwnwr.

"Yr unig ddyogelwch i amaethyddiaeth yn California yw mabwysiad cynllun eang o Ddyvriad, a'r unig ddyogelwch rhag newyn. Dim ond 20 modvedd o wlaw sydd yn disgyn yn California, pan y mae yn vwy na dwy waith hyny yn y Talaethau Dwyreiniol ac yn Ewrop,"

Italy yw gwlad glasurol y gelvyddyd o Ddyvrio. Yno y mae peirianaeth ddyvriol yn cael ei dysgu vel celvyddyd, a'i hanrhydeddu vel profeswriaeth. Yn Turin y mae priv Athrova y gelvyddyd: a cherllaw y mae cyvundrevn eang o ddyvriad; ceir velly gyvleusderau i'w dysgu yn ymarverol. Mae yr Eidaliaid presenol wedi rhoddi eu sylw yn vwy i ddyvriad tiroedd aradwy; a chanddynt hwy y mae y gyvundrevn berfeithiav o ddyvriad o bawb yn Ewrop. Camlas Ticinio yw bywyd Lombardy, ac y mae yn gweithio er ys 600 o vlyneddoedd. Ac y mae y wlad hono yn un o'r gyvoethocav a mwyav poblog a welodd y byd erioed. Yn Piedmont hevyd, mae y rhandir ddyvredig yn viliwn a haner o erwau."

"Parodd y newyn yn India Brydeinig i'r Llywodraeth ymgymeryd âg adeiladu camlesi dyvriol. Y penav o'r gweithiau hyn yw Camlas y Ganges, agos 1000 o villdiroedd o hyd. Cymer hyn o'r avon Gysegredig 8000 troedvedd cubaidd yr eiliad o ddwvr. Y mae y llavur hwn wedi cael ei wobrwyo yn helaeth yn ngwareiddiad y bobl, yn y gwelliant mawr yn eu cyvlwr iechydol, a'r cynydd anverthol yn y cyllidau i'r Llywodraeth oddiwrth ardreth y tir a'r dwvr. Drwy y rhwydwaith ddyvriol hon, darostyngwyd 11,102,048 o dir gwyllt, difrwyth ac aviachus.