Oddiwrth hynyna ve welir sut y daeth y "Cracker," pan oedd gyvyng ar y Wladva—a da iawn vu y dyvodiad hwnw. Mae yn engraift, hwyrach, o lawer gwasanaeth distaw wneir gan Lywodraeth Prydain. Dyry y dyvyniadau canlynol o adroddiad y Cracker ryw ddirnadaeth o'r cyvwng yr aethai y Wladva drwyddo, ac o'r sevyllva a'r syniadau erbyn hyny.
Ebai Capt. Denniston: "Mae'n hyvrydwch mawr i mi vedru mynegu ddarvod i ni gael y Gwladvawyr mewn iechyd ac ysbryd rhagorol, er mor ryvedd hyny wrth ystyried na vu cymundeb rhyngddynt â'r byd er's 20 mis, oddigerth pan ddaeth L. J. ac 11 o ymvudwyr yn Mai, 1870. Yr oedd diolch y bobl druain hyn i lys—genad Prydain'am ymholi yn eu cylch ac i'w helynt, yn olygva doddedig; a diau y bydd yr ymweliad hwn yn voddion i ddileu y teimlad o lwyr unigedd oedd yn peri i rai ohonynt ddigaloni. Mae y Wladva wedi dioddev dwy vlynedd o sychder [camlesi anigonol], vel mai methiant vu y cynhauav. Cyvrivir vod eu cnwd tuag 16 tunell o wenith—tua digon i gyvlenwi bara iddynt. Ond y mae hyny yn perthyn i ychydig bersonau: dau deulu heb ddim grawn; a 10 heb yn agos ddigon; tra nas gellir disgwyl cymorth am bedwar mis o leiav. Velly, wedi archwiliad trwyadl i'r sevyllva, pendervynais gymeryd y cyvrivoldeb arnav vy hun i hebgor o vwyd y llong i'r rhai tlotav (19 mewn niver) 504 lbs. bara caled, 309 lbs. pys, 404 lbs. blawd, 308 lbs. blawd ceirch, 201 lbs. tatws parotoedigoll 1724 lbs. o luniaeth, a 200 lbs. o sebon. Mae yr holl Wladva wedi bod am ddeng mis heb un math o groceries, gan vyw ar vara menyn, llaeth, a chig helwriaeth. Cyn y dervydd hwn disgwyliant y bydd cynydd y gwartheg yn ddigon i gyvlenwi eu hangenion. Mae'r pellder i Patagones (y man agosav atynt) yn 200 milldir o wlad ddifaeth ddi—ddwr, vel mai yr unig gymundeb ymarverol iddynt vyddai llong vechan o ryw 80 tunell. Gwelais bron bob un yn y Wladva, ac ni chlywais ond un gri, sev difyg cymundeb, ac velly ddifyg holl vân angenion cyfredin bywyd. Ni ynganodd neb ddymuniad i adael y lle; a chytunent oll y byddent yn gwbl gysurus pe cawsent y rheidiau cyfredin yn eu cyraedd. Mewn cyvarvod o'r holl sevydlwyr govynwyd i mi ganiatau cludiad i Mr. L. Jones, er mwyn iddo ymdrechu cael Ilong at eu gwasanaeth; ac i Mr. D. Williams, Oneida, ddisgwyliai gyvlenwad o ofer amaethu o'r U. Daleithau—a chaniateais y ddau gais.—R. P. DENISTOUN.
Ac ebai'r meddyg Turnbull: "Ymwelais yn bersonol ag agos bob un o'r trigolion, a gallav velly dystio i iechyd rhyveddol yr holl sevydliad, yn neillduol y plant. Yr oedd y casgliad yn anocheladwy—vod y newid o hinsawdd Cymru i'r hinsawdd dymherus hon wedi bod o anrhaethol les iechydol i'r trigolion.