Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Vel rhan o adroddiad y "Cracker," cyhoeddwyd am y tro cyntav ystadegaeth vanwl am bawb a phob peth yn y Wladva ar y pryd:—Poblogaeth 153, teuluoedd 34, gwartheg 148, aneri a lloi 80, bustych 73, cefylau 108, cesyg 39, ebolion 4, devaid 9, erwau o wenith 257, cnwd llynedd 37,850lbs, haidd 1300lbs.

Hynyna! ymhen chwe' blynedd! wedi dioddeviadau, cynhenau, aberthau, ymdrechion, dewrder, eiddilau, egnion, cydweithio, cynllunio, methiantau.


TREVEDIGAETH BRYDEINIG YW Y FALKLANDS yn gorwedd ryw 150 o filldiroedd i'r dwyrain oddiar arvordir deheuol y Weriniaeth Arianin (ddynodir yn gyfredin "Patagonia"). Hinsawdd wyntog a niwlog sydd i'r ynysoedd; ond megir llawer o ddevaid a daoedd yno. Bu cryn giprys am y Falklands ar un adeg rhwng llywodraethau Frainc, Prydain, a Spaen, ac am gyvnod byr bu yr Unol Daleithau hevyd yn llygadu yn eu cylch. Vel olyniaeth i etiveddiaethau Spaen, mae y Weriniaeth Arianin o dro i dro wedi gwrthdystio yn erbyn meddiant Prydain ohonynt. Ond llywodraethir hwynt gan Brydain er's blyneddau lawer vel Trevedigaeth y Goron (Crown Colony), gydag awdurdodau gwladol, milwrol, ac eglwysig. Hon yw yr unig drevedigaeth Brydeinig yn Ne Amerig briodol; ac edrychir arni vel cartrev gorsav lyngesol De—ddwyrain Amerig, er mai Montevideo yw cyrchva benav y llynges. Oblegid hyn, mae cyswllt wedi bod o dro i dro rhwng y Wladva a'r Falklands. Llongau rhyvel Prydain yn galw ar eu fordd i neu o'r Falklands i saethu a threulio gwyliau hav mewn hinsawdd dymerus: ac wrth vod y morwyr a'r swyddogion o'r un bobl a magwraeth a'r gwladvawyr, bydd cyvathrach a thravnidiaeth rhyngddynt.

Yn y 7 degau, a chyn hyny, arverai llongau pysgota moelrhoniaid chwilena arvordir y Wladva a'r tiriogaethau ereill, a gwneud y Falklands yn orsav eu masnach. Un o'r llongau vynychent y lle oedd yr "Irene," Capt. Wright; ac un tro, pan mewn cilvach tua Tombo Point, ryw 80 milldir islaw y Wladva, daethant ar draws gweddillion dynol, a lle bedd gerllaw. Ni avlonyddwyd ar y bedd, ond cavwyd yn ei ymyl oriawr arian, ag arni enw'r gwneuthurwr, J. Hughes, Čarnarvon; cyllell boced a'r llyth'renau D. D. arni: a botwm livrai lled hynod. Deonglai y Wladva y creiriau hyny vel yn perthyn i bobl y llong vach "Denby," gollasid yn 1868—9: D. D. oedd D. Davies, mab T. Davydd, Dyfryn Dreiniog; y botwm livrai berthynai i T. Dimol pan wasanaethai glwb yn Manchester; yr_oriawr vel un a roisid i oval Cadivor Wood i'w glanhau yn Patagones. Aeth Capt. Wright a'r creiriau i'r Falklands, gan wneud datganiad yno o'r darganvyddiad. Bu peth gohebiaeth rhwng L. J.