Tudalen:Hen Gymeriadau Dolgellau.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ewyllys, ac mai fi a'n ngwraig ydi y sgutorion; faint sydd am yr arch?" Deg punt, Jack,' atebai Tudur yn surllyd. "Beth! deg punt, a Lewis Evans yn chargio dim ond pedair a chweigian am arch 'y modryb." "Beth ydi Lewis Evans i mi dwad? ond deg punt i mi, neu yr arch yn ol!"

LEWIS RHYS, neu Lwsyn Sara Lewis. Buasai yn well gennyf adael enw hwn, a'i frawd Rhysyn, a'i chwaer Nansi, allan o'r rhestr; ond ni fuasai y rhestr yn gyflawn felly. Gwyr pawb sydd yn Nolgellau, ond odid, mai dyma yr un a roddodd fwyaf o ddychryn i drigolion y dref tua hanner can mlynedd yn ol o neb, oherwydd ei ladradau beiddgar. Yr oedd, fel y crybwyllwyd, yn un o dri o blant Sara Lewis, a phob un o honynt yn lladron o'u mebyd, er nas gwyddai llawer hynny ar y pryd. Am Rhysyn ei frawd, listiodd at y milwyr, ac aeth i'r Iwerddon, cafodd gyfle i ddianc, a gofynnodd am gael ei gludo i Gymru gan ddwylaw llong o Aberystwyth, gan ei fod wedi edifarhau listio. Hynny fu. Glaniodd Rhysyn, a cherddodd o Aberystwyth i Ddolgellau, gan ddeyd mai chwech wythnos o furlough oedd yn ei gael. Wedi ei weled yn aros yma am spel hwy na chwech wythnos, dychrynedd rhywun ef trwy ddweyd fod yr hen Sergeant Reis Huws am ei ddal fel deserter. Perswadiwyd Rhysyn i fynd yn ol at ei regiment, ac ni chlywyd dim o'i helynt am flynyddau. Daeth yn ol i Ddolgellau ymhen rhyw gyfnod, a'r tro hwn wedi cael ei discharge, ac yn fuan priododd â Mari Wyddeles, yr hon oedd erbyn hyn yn weddw John Roberts y Bugler, yr hwn fu byw am flynyddoedd yn hen dŷ Rhys Owen, a lle mae Miss Morris yn byw yn awr, sef yn Lombard St. Gallwn feddwl nad aeth dau mor debyg i'w gilydd i'r ystad briodasol o ran anianawd a Rhysyn Sara Lewis a Mari Wyddeles, oblegid yn fuan ar ol priodi daliwyd Mari yn lladrata, profwyd hi yn euog, a danfonwyd hi i Milbank Penitentiary i Lundain: ychydig wedi hynny cymerwyd Rhysyn i fyny am robio hen wraig ar y ffordd i Gorris, a dedfrydwyd yntau i gael ei dransportio i Van Dieman's Land. Am Lewis ei frawd, mae yma lawer yn ei gofio. Crydd o ryw fath ydoedd, yn gwneuthur slippers, y rhai a elwid yn 'sgidiau list— welais i byth bâr ar ol iddo fo a Nansi farw. Dyn main, tal oedd, tua chwe troedfedd pedair modfedd o daldra, wedi eillio ei wyneb yn lled lwyr. Pryd tywyll ond yn llwyd ei wedd; byddai yn slamin mynd fel pe bai am y cynta a'i gysgod, mymryn o ffedog glas dywyll, a rhywbeth ganddo odditani bob amser pan yn y stryd pâr o slippars yn ddiau. 'Roedd ei drowsus tua chwe modfedd yn rhy fyrr i fod yn regulation size, a dangosai bâr o sanau gleision ymhell uwchlaw'y meilwng. Siaradai yn ferchedaidd, a thôn leddfol yn ei lais; ac wrth ei glywed yn siarad, meddyliech mai efe oedd y diniweitiaf o blant dynion. Clywech rywun yn gofyn iddo, "Wel, Lewis Rhys, sut y mae nhw tua Penucha'rdre acw?" "O fel y nadrodd, fel y nadrodd, y machgian bach i."

Yr oedd Nansi ei chwaer yn ddynes gorffol ddynol i'r golwg, ac yn meddu ar gyfrwysdra llwynogaidd dihafal. Cadwai Lewis a hithau siop yn Lion Street, lle mae Miss Evans yn awr, y drws nesaf i'r Commerce House, lle y gwerthid ac y gweithid y sgidia list yma, ynghyda chacenau gingerbread, ac yr oedd geirda i gacenau Ann Rhys. Gyda rhai o'r rhain, ac oranges, y byddai Lewis Rhys yn myned i gydymdeimlo a'r rhai y torrid eu tai ganddo y noson gynt.

Torrodd Lewis Rhys y Shop Newydd, Shop Gruffydd Dafydd, ty Mrs. Griffiths, Penbryn—y ty nesaf i dŷ Sergeant Williams, a llawer o dai eraill. A'i noson ef at y dieflwaith hwn oedd nos Sulia pan y gwyddai fod pawb yn y capelau a'r eglwys. Dywedir mai y diweddar Dafydd Jones Siop Fach oedd un o'r Sherlock Holmes a ddaethant o hyd i'r clue a fu yn foddion i ddwyn y Turpin Cymreig yma i'r ddalfa. Yr oedd Nansi ei chwaer o'r gyfrinach, ac euogfarnwyd hwy, a dedfrydwyd hwy i bedair blynedd ar ddeg o dransport, ond cawsant respite ymhen saith mlynedd, a daeth y ddau i fyw i'r dref, ac yma y buont farw.


YR ALABINES.—Dyma griw o sipsiwn oedd yn lled liosog yn ac o amgylch y dref ystalwm. Yr oeddynt yn byw gan mwyaf drwy weithio tins, hela, pysgota, a deyd ffortiwn, gostwng cythreuliaid a'u codi, witsio a dadwitshio, ac felly yn y blaen. 'Roedd Neli Alibine, er heb fod yn Sipsiwn, wedi dysgu llawer o'r dark art, a bu yn trio tynnu rhyw raib oddiar fachgen o'r dre yma drwy roddi cerdyn budr ar ei