ion cyntaf yn blentyn oedd cario cig dros ei dad allan o farchnad Nottingham i'r cwsmeriaid. Dechreuodd yn ieuanc ddangos chwaeth anarferol at ddarllen, gymaint fel y byddai yn anhawdd ei gael oddiwrth ei lyfr at ei fwyd. Dechreuodd hefyd pan yn blentyn deimlo hoffder at brydyddu.
Pan yn 14 oed rhoddwyd ef mewn gweithdy hosanau, masnach ag y mae Nottingham yn enwog ynddi. Ond yr oedd yn wrthwynebus iawn i'r gwaith hwnw, a chyn ei fod yn 15 oed, rhoddwyd ef mewn swyddfa cyfreithiwr. Defnyddiai bob mynyd hamddenol i ddarllen a dysgu. Yr oedd swm y llyfrau a ddarllenai yn syndod, a dysgodd ychydig o Groeg, Lladin, Italaeg, Yspaenaeg, a iaith Portugal. Astudiai hefyd Gyfraith, Fferylliaeth, Seryddiaeth, Trydaniaeth, Arluniaeth, Cerddoriaeth, ac amryw gangenau eraill o wybodaeth. Mewn llythyr at ei frawd, pan nad oedd ond tri mis gyda 15 oed, dywedai, "Yr wyf yn sychedu am wybodaeth; ac er fy mod o dueddfryd naturiol ddioglyd, yr wyf yn gorchfygu hyny trwy ddarllen llyfr buddiol. Y llwybr wyf yn gymeryd i orchfygu fy annhueddrwydd at lyfrau sychion yw, dechreu eu darllen yn ymroddedig, a pharhau am un awr bob dydd; daw y llyfr fel hyn, heb yn wybod i mi, yn hawdd, a byddaf yn rhoddi heibio hyd yn nod Esboniadau Blackstone, y rhai ydynt yn sychion iawn, gyda gofid."
Tra yn swyddfa y cyfreithiwr, ac yn y llafur dirfawr hwn i gasglu gwybodaeth, ac mewn oed mor ieuanc, mynai amser i gyfansoddi darnau barddonol o deilyngdod uchel. Pan yn glerc ieuanc yn swyddfa y gyfraith, y benthyciwyd iddo gan gyfaill lyfr Scott yr Esboniwr ar "Rym Gwirionedd," a throdd ei feddwl gyda zel neillduol at grefydd a duwinyddiaeth; ac yn fuan penderfynodd gysegru ei fywyd i wasanaeth Iesu Grist a'r Efengyl. Wedi myned trwy argyhoeddiad llym, ac edifeirwch dwys iawn, dywed mewn llythyr at gyfaill, "Yr wyf yn awr yn troi fy ngolwg at Iesu, fy Iawn, gyda gobaith a hyder. Ni wrthyd bechadur edifeiriol sydd yn erfyn arno. Mae ei freichiau ef yn agored i bawb yn agored hyd yn nod i mi; ac mewn cydnabyddiaeth am y fath drugaredd, beth yn llai allaf wneyd na chysegru fy holl fywyd i'w wasanaeth?"
Penderfynodd yn awr fyned i'r weinidogaeth, a chyhoeddodd gyfrol o Farddoniaeth, er mwyn i'r elw ei gynnorthwyo i fyned i'r Coleg. Yn anffodus cafodd ei lyfr feirniadaeth lem, llawer mwy llym nag yr haeddai. Parodd hyn ofid dirfawr iddo. Yn yr ysbryd hwn y cyfansoddodd ei gân nodedig i "Siomedigaeth." Daliai o hyd yn benderfynol i fyned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, os gallai; ond os nad allai, mewn rhyw enwad arall. Cafodd gyfaill caredig yn Southey y bardd, ac wedi hyny yn Henry Martyn, y cenadwr enwog. Ac o'r diwedd, agorwyd y drws iddo i fyned i Cambridge, a gobaith am gael myned i bulpud yr Eglwys. Yn