Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gofal am y ddwy eglwys fach yn ormod iddo, ac ymneilltuodd i orffwys a marw. Bu yng Nghrug-glas am chwe mis, o Ionawr hyd Mehefin, 1894, ac yn ystod yr amser hwnnw trawyd ef ag ergyd o'r parlys. Gofalodd Mr. a Mrs. Evans am dano â thynerwch mawr, a charent ef fel petai'n fab annwyl iddynt. Ym Mehefin, 1894, symudwyd ef i gartref ei frawd John, yn Chilton, Wisconsin, ac wedi dihoeni am ychydig tros flwyddyn, bu farw dydd Mercher, Mai 8, 1895, a'i oedran yn ddwy flwydd a thrigain, chwe mis, a saith niwrnod ar hugain. Y dydd Gwener dilynol, Mai 10, claddwyd ef heb na rhwysg na rhodres, yn Brant, Wisconsin.[1] Ddiwrnod ei farw, draw, y tuhwnt i'r llen, yn nhŷ ei Dad, bu gorfoleddu a moli mawr.

  1. "The Chilton Wisconsin Times," May 11, 1895.