Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn, daethai Mr. Jones yno o Clay County, Iowa, lle buasai'n gwasanaethu Sefydliad newydd o Gymry. Yr oedd o ymddangosiad hardd, gyda llais cyfoethog. Clywais ef yn pregethu unwaith neu ddwy. Darllennai bob gair o'i bregeth, ac ni feiddiai godi ei lygaid oddiar y papur heb ddrysu. Ond pan gaeai ei lygaid i weddio yr oedd ei barabl yn groyw, ei ddawn yn llithrig, ei lais yn beraidd, a'i oslef yn swynol a thra chynhyrfiol. Llifai adnod ar ôl adnod, addewid ar ôl addewid, o drysorfa'i gof i'w wefusau, a phlethai hwynt yn eu erfyniadau, a hofrent ar adenydd ei lais organaidd nes creu teimlad o lawenydd a hyfrydwch addolgar yn y cyfarfod.

Gadawodd ef Sefydliad Blue Earth Co. o'm blaen i, ond ar ôl symud i Chicago, yn nechrau 1894, gwelais ef drachefn yng nghapel bach Bethania, Swydd Waukesha, lle y cynhelid cyfarfod chwarter Dosbarth Waukesha. Arhosai yn yr ardal gyda'i berthynasau, sef teulu Mr. John Evans, Cruglas. Galwyd arnaf i bregethu brynhawn y dydd olaf, ac eisteddai yntau dan y pulpud, a bu ei amenau perseiniol yn foddion i galonogi'r pregethwr gwan, ac i ddyblu nerth a gwerth y bregeth i'r gwrandawyr. Testun y bregeth oedd Terah yn cychwyn i Ganan, ac yn aros ar hanner y ffordd, a marw cyn cyrraedd Canan. Credaf mai dyna'r olaf a gafodd ar y ddaear, oblegid deellais iddo gyrraedd pen y daith yn fuan wedyn. I mi y mae ei goffadwriaeth yn felys a hyfryd. Ni allaf anghofio ei weddiau a'i amenau. Yr oedd mwy o ddylanwad ysbrydol yn ei amenau ef nag yn fy mhregethau i."[1]

Yn y flwyddyn 1893, tua'i diwedd, rhoddodd heibio ofalu am eglwysi Cambria a South Bend ac aeth i Crugglas, Wales, Wisconsin, cartref Mr. John a Mrs. Ann Evans, rhieni Mr. W. Jarmon Evans, sydd yn awr yn Oshkosh, Wisconsin. Yr oedd Mrs. Ann Evans yn gyfnither i'r Diwygiwr. Er nad oedd Humphrey Jones ond ychydig dros drugain oed, teimlai'n hen a llesg; daethai oerni mawr gaeafu America, a chyfrifoldeb y

  1. Llythyr y Parch. J. C. Jones, D.D., Chicago, Rhagfyr 2, 1927.