Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth yntau fel gŵr dinerth. Oherwydd hyn anghofiodd. y lliaws ef, ac ni ofalwyd am gofnodi manylion ei hanes yn fuan wedi ei farw. Byr yw cof gwlad o'i dyled i'w chymwynaswyr. Gwna'r esgeulusdra hwn ddilyn ei lwybrau yn anodd. Dywaid Miss Anna E. Jones, merch i gefnder iddo, a deimla ddiddordeb mawr yn ei hanes ef a'i pherthynasau eraill a fu farw yn America, i'r Diwygiwr yn ddiymdroi ar ôl ei ryddhau o'r gwallgofdy yn Oshkosh ymroddi am ysbaid i wasnaethu'r Cymry yn y Sefydliad Cymreig yn Wisconsin, ac yna teithio trwy Oregon, a thario am gyfnod yn y Sefydliad Cym- reig a oedd gerllaw dinas Oregon. Symudodd oddiyno yn araf i lawr y Pacific Coast gan ymdroi ymhlith y Cymry yma a thraw a phregethu iddynt oni ddaeth i San Francisco ac Oakland, California.[1]

Pan ddychwelodd y Diwygiwr o'r daith hon dewis- wyd ef yn weinidog eglwysi Annibynnol Cambria a South Bend, Minnesota, a gwasanaethodd hwy am ychydig dros bedair blynedd, o haf 1889 hyd Ionawr 1, 1894.[2] Rhydd y Parch. John C. Jones, D.D., Chicago, mewn llythyr, beth o hanes y Diwygiwr yn ystod tymor ei weinidogaeth yn Cambria a South Bend.:

"O Chwefror, 1884, hyd Chwefror, 1894, ac eithrio'r flwyddyn 1888, a dreuliais ym Minnesapolis, Minnesota, yr oeddwn yn weinidog ar eglwysi Mankato, Seion a Charmel, Swydd Blue Earth, Minnesota, lle'r oedd Sefydliad Cymreig cryf gydag wyth o eglwysi Methodistaidd, a dwy eglwys Annibynnol. Yn ystod y deng mlynedd uchod daeth y Parch. Humphrey Jones i'r Sefydliad a chartrefu gyda'i berthynasau, sef teulu Mr. David Lewis, mewn ffermdy ar y ffordd rhwng Mankato a Seion. Yr oedd capel Annibynnol yn South Bend o fewn dwy filltir neu lai i'w arhosfan, ac yno pregethai Mr. Jones bob prynhawn Sul i nifer bychan o Gymry, yn cynnwys dau deulu lluosog, a oedd yn berthynasau iddo, sef teuluoedd David ac Evan Lewis. Os cofiaf yn

  1. Llythyr Miss Anna E. Jones, Mankato, Minn., dyddiedig Medi 30, 1927.
  2. "History of the Welsh," pub. at Mankato, Minn., 1895