Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn ddiymdroi wedi ei ryddhau o'r Sefydliad ymroddodd eilwaith i bregethu. Bu'n gwasanaethu am beth amser yn Oshkosh a Waukesha, Wisconcsin, ac yn gofalu am eglwys Gymraeg yn Remner. Tybiaf mai'r adeg hon, yn 1880, y priododd, yn Oshkosh, wraig weddw, merch i'r diweddar Mr. John Owen, Corris, Meirionnydd, a chwaer i'r Parch. John Morris Owen, gweinidog Wesleaidd. Bu gofal a thynerwch ei briod yn fendith amhrisiadwy iddo; diflannodd ei bryder ac adnewyddodd ei ysbryd, a disgwyliai'i gyfeillion ei weled yn fuan yn rhodio yn amlder ei rym fel yn y dyddiau a fu; ond er siom i bawb a cholled annisgrifiol iddo yntau, bu farw'i briod ddechrau Ebrill, 1882.

Am y deuddeg mlynedd olaf o'i oes bu'r Diwygiwr yn teithio trwy'r Taleithiau i bregethu i'r Cymry. Arhosai weithiau mewn lle am fisoedd neu flwyddyn, yn ôl y gofyn, i ofalu am eglwys wan, neu eglwys gref nad oedd iddi weinidog sefydlog. Bu yn San Francisco am lawer o fisoedd a phregethai yno oni ddaliwyd ef gan gystudd trwm a'i dug yn agos i angau. Treuliodd dymor gweddol hir ymhlith Cymry Oakland, California, yn pregethu iddynt, ac yn mwynhau eu caredigrwydd dibrin.

Dengys tystiolaeth ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, syniadau ei gyfeillion am dano a'u teimladau tuag ato yn y cyfnod hwn : "Yn y Cambrian Hall, San Fransisco, ar fore Saboth yn niwedd 1888, y gwelais fy hen gefnder annwyl gyntaf ar ol iddo adael Cymru gyda'i frawd. Yr oeddwn yn falch iawn i gyfarfod ag ef. Yr oedd yn ddigon gwael ei iechyd y pryd hwnnw. Yr oedd pawb yn ei hoffi. Byddai weithiau yn dyfod i'r moddion ar y Saboth, ac yn dechrau'r oedfa'n fynych iawn. Ystyriai cyfeillion San Fransisco mai braint oedd ei glywed yn gweddio. Nid oedd yn bosibl iddo ddechrau'r oedfaon yn rhy fynych."

Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd symudai'r Diwygiwr ar yr un gwastad â phregethwyr cyffredin America, ac ni thynnai fwy o sylw na hwythau, na chymaint â rhai ohonynt. Ýmhell yn ôl ataliwyd y goleuni a'r gwres, a disgynnodd y cymylau yn isel ar ei fywyd, ac