Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwella'n araf o'i gystudd maith a phoenus, cefais y fraint o'i wrando'n pregethu. Cynhelid yr oedfa yng nghapel yr Annibynwyr Cymreig, yn Columbus, Ohio. Pregethai'r Diwygiwr ar y geiriau, "Canys felly y carodd Duw y byd." Gorchymynasai'r meddyg iddo ei gyfyngu ei hun i'w bapur, ac ymdrechai yntau wneuthur hynny. Eithr caed arddeliad mawr a rhyfedd ar y gwasanaeth o'r cychwyn; gwresogai ysbryd y pregethwr ac anesmwythai'r gynulleidfa, ac yn fuan diflannodd y papur fel dail ar flaen corwynt, ac wedyn, llefarai'r Diwygiwr fel yn nyddiau'i nerth. Nid oedd na gwres nac ynni yng nghrefydd y wlad ar y pryd, ond yn yr oedfa fythgofiadwy honno bloeddiai'r gynulleidfa ei hamen a'i diolch nes peri yn fy enaid iasau fel tân.

"Ar derfyn y bregeth ceisiodd y Parch. Mr. Griffith, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn Columbus, siarad. Yr oedd yntau tan deimladau rhyfedd, a methodd â llefaru. Yna, gweddiodd oni chodwyd pawb i awyrgylch Diwygiad '59, ar ei orau. I goroni'r oedfa soniodd Mr. Breeze, brodor o Lanidloes, am a glywodd gan Humphrey Jones yng Nghymru yn 1859. Bu hyn yn danwydd newydd, a fflamiodd y tân. Terfynodd yr oedfa mewn gorfoledd mawr."

Yn Awst, 1929, daeth imi lythyr oddi wrth Mr. Humphrey Richards, Des Moines, Iowa, gŵr pedwar ugain oed, a pherthynas i Humphrey Jones, yn dywedyd bod ganddo atgofion lawer ac annwyl am y Diwygiwr. Cofia ef yn dyfod trosodd i Gymru yn 1858, ac yn rhoddi gwlad oer ar dân; cofia ef hefyd ym mhen blynyddoedd, ar ôl ei ollwng o wallgofdy Winnebago, Wisconsin, yn treulio wythnos yn ei gartref yn Iowa, â'i gof wedi pallu a gogoniant y dyddiau gynt wedi ymadael Eithr er pob cyfnewidiad pery Mr. Richards i gredu na fu erioed ddiwygiwr yn rhagori arno o ran ymgysegriad ac awdurdod a dylanwad.