Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i weddio yn y dirgel. Nid amheuai neb onestrwydd ei gymhellion, ac ni feiddiai ei gritics mwyaf miniog gyffwrdd â'i gymeriad fel dyn Duw. Yr oedd ei genadwri yn syml ac eglur, yn ddiaddurn a chyfan, ac fel Moody, byddai ganddo wmbredd o hanesion tarawgar a phwrpasol, ond nid oedd ganddo ddim chwareus ac ysgafn. Ni chlywais ef erioed yn awgrymu bôst oherwydd ei lwyddiant i droi pechaduriaid, fel y clywir yn rhy aml gan efengylwyr Americanaidd. Byddai'n ofalus i ddidwyllo dynion am eu sefyllfa o flaen Duw, ac ymdrechai i'w hargyhoeddi a'u dwyn i edifeirwch. Yr oeddwn ar y pryd yn rhy ieuanc i werthfawrogi'r pethau hyn, ond ni chlywais gan ei feirniaid a'i wrthwynebwyr—ac yr oedd ganddo lawer—awgrym gwahanol i'r gosodiadau uchod. Y mae'n debyg nad oedd bob amser yn ddoeth; dyn ieuanc ydoedd, rhwng 25 a 30 mewn oedran, a diamau iddo wneud camgymeriadau fel y gwnaeth Elias ac eraill; ond ni chlywais si o amheuaeth parthed ei gymeriad pur a'i fywyd duwiol.

"Pan y'i gwelais yn Aberystwyth yn 1866, yr oedd yn isel ei ysbryd, a dywedodd wrthyf lawer o'i brofiadau a'i siomedigaethau, ond ni welais un arwydd ar y pryd fod ei feddwl yn ffaelu. Pan ddychwelodd i'r Taleithiau yr oedd ei iechyd corfforol wedi ei adfer, ond y meddwl wedi gwanhau yn ddirfawr. Clywais ei bregeth gyntaf yn addoldy y T.C., ym Milwaukee; ... Ai i eithafion direol a didrefn. Nid oedd Wmffre Jones yn bresennol mwy.

"Ni wn am un Gennad i'r Goruchaf yr wyf yn fwy dyledus iddo am gynhyrfiadau crefyddol ac argyhoeddiadau am Dduw ac anfarwoldeb na'r Parch. Humphrey Jones, ac y mae canoedd fel mi fy hunan ar hyd a lled y Taleithiau yr un mor ddyledus iddo. Y mae'r ddaear yn well o'i fywyd arni, a'r nefoedd yn anwylach o'i fynediad iddi."

Cefais heddiw, Awst 9, 1929, yng ngeiriau'r Parch. G. Bedford Roberts, atgofion Mr. Thomas Jones, sy'n byw yn awr yng Ngharno, Sir Drefaldwyn, am oedfa a gafodd Humphrey Jones, yn Columbus, Ohio— "Yn Hydref, 1884, a'r Parch. Humphrey Jones yn