Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanner. Bu David Morgan yn gweithio'n galed am oes, ond gwnaeth waith ei oes mewn tymor byr iawn—dwy neu dair blynedd. Gwisgodd Duw ef ar gyfer yr adeg honno, ac wedi iddo gyflawni ei waith diosgodd ef o'i ogoniant, a daeth fel cynt. Wedi i Richard Owen, y Diwygiwr, orffen ei waith cipiodd Duw ef adref yng nghanol ei ddyddiau. Ond gwelodd Rhagluniaeth yn dda gadw Humphrey Jones ar y ddaear am flynyddoedd lawer, a'i waith wedi ei orffen pan oedd yn ieuanc. Huned ei hun yn dawel."

Nid oes yn fyw yn awr neb a gafodd well cyfleusterau na'r Parch. H. O. Rowlands, D.D., i adnabod Humphrey Jones. Adnabu ef yn ei ddyddiau bore fel Diwygiwr, ac wedyn, â'i haul tan gwmwl, hyd ddiwedd ei oes. Ceir yn ei ysgrif fer ddarlun da,—y gorau a welais, o'r Diwygiwr.

"Fe wnaeth y Parch. Humphrey Jones lawer iawn o ddaioni yn ei ddydd byr, a Llyfr y Bywyd yn unig a gynnwys gyfrif cyfan o hono. Yr oedd yn un o'r diwygwyr mwyaf grymus a gafodd y Cymry yn y ganrif ddiweddaf. Adwaenwn ef yn dda o'm plentyndod. Bu'n aros am wythnosau yn fy nghartref yn Waukesha, Wisconsin, pan oeddwn yn hogyn. Cyfarfum ag ef yng Nghymru, yn Aberystwyth, yn 1886, ac ar ol ei ddychwelyd o Gymru bum yn ei gyfeillach amryw weithiau yn fy nhŷ fy hunan. Yn Wisconsin y dechreuodd lewyrchu fel diwygiwr, ac yn nerth yr enwogrwydd a enillodd yn y Dalaith hono yr aeth trwy yrfa boblogaidd iawn yn Nhaleithiau Ohio, Pensylfania a New York.

"Cyfansoddai bregethau rhagorol, a chlywais rai ganddo oedd yn orchestol o ran cynllun ac iaith. Rhagorai o ran medr mewn homiletics, a thraddodai'n nodedig o rymus mewn ysbryd dwys a thyner. Yn ychwanegol at y pethau hyn yr oedd ganddo bersonoliaeth gref a gwefrol. Swniai'i bregethau yn llai fel cyfansoddiadau diwinyddol ac uniongredol nag fel apeliadau angerddol at bechaduriaid. Ond er yn rymus anghyffredin fel pregethwr, yr oedd yn rymusach fel gweddiwr. Treuliai'i amser mewn cymundeb cyson â Duw, ac