Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cefncribwr, Cwmafon, Rock, Abertawe, Glandwr, a'r wlad oddiamgylch. Nid oes hamdden gan y bobl i ddim ond gweddio. Mae cannoedd o'r cymeriadau mwyaf llygredig yn "ymwasgu â'r disgyblion."

Yn y Gogledd hefyd y mae effeithiau grymus iawn i'w canfod. Daeth rhagddo o sir Aberteifi i sir Drefaldwyn. Mae ychwanegiadau rhyfeddol tuag Aberdyfi, Towyn, Penal, Machynlleth, Aberhosan, a'r holl leoedd cylchynol. . . . . . Mae yr awelon yn chwythu tua Dolgellau, Abermaw a'r Bala. Mae diferynau breision yn disgyn mewn mannau yn sir Gaerynarfon, yn rhagddangos fod "glaw mawr ei nerth ef" ar ddyfod. . . .[1]

Nid yw'r hyn a ysgrifennwyd gan y Doctor John Thomas namyn y filfed ran o hanes y Diwygiad. Llosgodd y tân trwy Gymru gyfan—pob sir ynddi, ac i'r pentrefi mwyaf mynyddig a diarffordd. Ychwanegwyd ugeiniau o filoedd at yr eglwysi a newidiwyd llawer ar wedd foesol yr holl genedl; ac i'r Diwygiad yn fwy nag i ddim arall yr ydym yn ddyledus am lawer o gewri'r pulpud, megis, T. C. Edwards a John Evans, Eglwysbach.

Tybed na rydd symudiad mor anarferol fawr arbenigrwydd ar y gŵr a ddefnyddiodd Duw i'w gychwyn? Y mae'n ddiamau y gwna; eithr nid oes yng Nghymru na maen na llyfryn i'w gofio.

Yn 1914, trefnodd y Parch. R. H. Pritchard (W.), godi Colofn Goffa i'r Diwygiwr, o flaen capel Tre'rddol. Cymeradwywyd ei gynllun gan Gyfarfodydd Taleithiol a Chymanfa y Wesleaid yng Nghymru, a gwasgarwyd llyfrau casglu trwy'r wlad. Yr oedd arwyddion sicr y cefnogid yr ymgymeriad gan grefyddwyr Cymru'n gyffredinol; eithr daeth y Rhyfel Mawr a drysu bywyd yr holl deyrnas, ac ni chodwyd y Golofn byth. A ydyw yn anodd gwneuthur hynny eto yn awr? Aberthodd Humphrey Jones ef ei hun pan gychwynnodd y Diwygiad a fu yn foddion achub tros gan mil o bechaduriaid i

  1. "Diwygiad Crefyddol: Yn cynnwys hanes y Diwygiad presenol yn Nghymru." Gan y Parch. J. Thomas, Liverpool. Llanelli, 1859.