Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu bedyddio â'r Ysbryd Glân. Mae yr awelon balmaidd. yn chwythu yn adfywiol ar yr eglwysi gyda glannau Teifi, ac o gylch Llanbedr-pont-Stephan, lle yr oedd anadl wenwynig Sociniaeth wedi gwywo pob gwyrddlesni crefyddol; y maent yn awr yn blodeuo fel gardd yr Arglwydd, yr oerni gaeafol wedi myned heibio, a gwanwyn a hâf ar grefydd wedi dyfod. Mae y Diwygiad mewn rhai manau yn gwisgo gwedd wahanol yn awr rhagor yr hyn oedd. Gwres a thanbeidrwydd yr hen ddiwygiadau gynt wedi dychwelyd-afradloniaid wedi dychwelyd, ac wedi eu gwledda, a'r teulu yn awr yn dechrau bod yn llawen. Mae Duw yma wedi gwneud pethau anhygoel. O Dre'rddol, y Borth a Thalybont, trwy Aberystwyth, gyda glan y môr hyd Aberteifi, ac yn groes trwy ganol y wlad heibio Y Glyn, Hawen, Castell Newydd, Horeb, hyd Lanbedr, trwy Langeitho a Thregaron hyd Bontrhydfendigaid-crefydd ydyw y testun cyffredinol, ac achub sydd ar feddwl pawb. Nid oes genym gyfrif cywir o nifer y dychweledigion drwy y sir oll; ond oddiwrth yr hysbysrwydd sicr a gawsom o nifer fawr o leoedd, a'r awgrymiadau am lawer yn ychwaneg, tybiwn ein bod islaw yn hytrach nag uwch y nifer pan ddywedwn fod pymtheng mil o eneidiau wedi eu hychwanegu at yr eglwysi yn Sir Aberteifi yn unig o fewn corff y flwyddyn hon; a gobeithio eu bod o nifer y rhai "a fyddant gadwedig." Mae pethau rhyfeddol yn cymryd lle yn sir Benfro-sir na bu erioed yn nodedig am ei gwres crefyddol. Mae y Dyfedwyr yn bwyllog a digynnwrf yn gyffredin,heb olygu fod arddangosiad o deimlad dwys yn hanfodol i grefydd; ond y mae y fflam wedi ymafael ynddi, ac yn llosgi o'i blaen. Mae y rhan fwyaf o'r eglwysi gyda phob enwad wedi profi pethau grymus. Una y gwahanol enwadau fel un gŵr i weddio; ac y mae rhai o eglwysi y Bedyddwyr yn y sir hon wedi cael adnewyddiad anghyffredin. Tua gwaelodion sir Gaerfyrddin, ac ymlaen hyd dref Caerfyrddin, y mae yr eglwysi yn blodeuo fel rhosyn. Rhifir y dychweledigion wrth yr ugeiniau a'r canoedd yn ardaloedd Blaencoed, Bwlchnewydd, Cana a Llanybri. . .

Mae awelon grymus iawn yn chwythu ar Pyle,