Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I.

TRE'RDDOL A'R GYMDOGAETH.

Pentref bach diymffrost yng ngogledd Ceredigion, a eistedd yn dawel mewn dôl deg, ar odre un o'r mynyddoedd sy'n ffurfio cadwyn Pumlumon ydyw Tre'rddol. Cuddia'r ynys sydd ar Gors Fochno Fae Ceredigion rhagddo, eithr pan fo'r Bae yn ferw gan ystorm fawr daw sŵn ei gynnwrf hyd ato ar brydiau. Yn ôl traddodiad, ar uchaf y mynydd sy'n gefn iddo, ac ar gyfyl Cae'r arglwyddes, yng ngolwg Gwar-cwm-isaf, y mae bedd Taliesin Ben Beirdd. Pan oeddwn i'n hogyn credai holl blant y fro'r traddodiad heb geisio praw o'i gywirdeb, ac wedi tyfu'n fawr parhânt i'w gredu. Nid oes un math ar reswm tros gredu i ysbryd yr hen fardd fendithio dim ar y pentref; aeth ei fendithion i gyd i bentref Talybont, filltir a hanner i'r de, lle maged Ceulanydd a Mochno a Hawen a Richard Morgan, Llanarmon-yn-Ial, ac o'r un man y cafodd "J.J." yntau eneiniad awdl" Y Lloer."

Ni wyddys pa mor hen yw Tre'rddol, ac o bu hanes i'w fore aeth i golli. Bu'n bygwth bod yn enwog ychydig tros gan mlynedd yn ôl ar gyfrif medr a masnach yr hetwyr a weithiai ynddo. Bu bri mawr ar hetiau Tre'rddol am gryn gyfnod, a dygid hwy i ffeiriau a marchnadoedd Cymru i'w gwerthu. Eithr lladdodd peiriannau'r trefydd mawr y fasnach hetiau, a suddodd y pentref i ddinodedd a digalondid. Yr unig fasnach arall a fu o fudd i'r pentref ac a'i siriolodd o dro i'w gilydd ydoedd masnach y mwyn plwm. Y mae'r mynyddoedd o'i ôl, a hyd yn oed y Gors o'i flaen, wedi eu britho â phyllau y mwyn plwm. Bu gweithio mawr ar adegau yng ngweithfeydd Bryn yr Arian, Pen Sarn, Y Romans, Y Llain Hir, Neuadd yr Ynys a Phenrhyn Gerwin. Telid eu cyflogau i'r gweithwyr ar y pedwerydd dydd Sadwrn o bob mis, a diwrnod pwysig oedd hwnnw; deffroai'r pentref i fywiogrwydd mawr wrth sŵn ymyf-