Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyr yn yr Half Way Inn a'r Commercial, a chyfrannai'r Royal Oak a'r Frân hwythau, yn Nhaliesin, y pentref cyfagos, gryn lawer at firi'r "Dydd Sadwrn Pen Mis." Eithr ysbeidiol fu llwyddiant y gweithfeydd hyn, ac aeth yr olaf ohonynt a'i ben iddo tua deugain mlynedd yn ôl. Ond wedi cysgu'n hir, y mae'r gymdogaeth yn effro eto unwaith, ac yn effro i fywiogrwydd mwy ffasiynol na chynt. Rhed y cerbydau modur mawr trwy'r pentref rhwng Aberystwyth a Machynlleth amryw weithiau bob dydd, ac oherwydd y cyfleusderau newydd, daw i'r ardal lawer o Saeson, rhai gwâr a rhai anwar, i fyw i dai rhad, a dwyn elfennau newydd i mewn i'r bywyd.

Yr oedd swyn mawr ym mywyd dôf a diniwed yr ardal hanner can mlynedd yn ôl. Dyddiau euraidd y flwyddyn oedd y Groglith a'r Nadolig a'r Calan a Ffair Talybont. Disgwyliai'r ieuenctid am y dyddiau hyn ag awch a'u cadwai'n effro a hoenus trwy undonedd y cyfnodau dôf. Y Groglith oedd y pwysicaf o'r dyddiau pwysig. Gorymdeithiai ysgolion Sul y Wesleaid a'r Methodistiaid Calfinaidd trwy'r ddau bentref, a dychwelent i'w capeli i yfed te a bwyta bara brith, ac yn yr hwyr cynhelid cyrddau difyr i ganu ac adrodd pethau syml. Penodid yn brydlon ddwy wraig o bob capel, y naill i grasu'r bara gwyn, a'r llall y bara brith. Torthau mawr wedi'u crasu'n uchel, a'r gwahaniaeth rhwng y ddau fara ydoedd bod un yn does pur a'r llall wedi ei fritho ag ychydig o gyrens â'r mymryn lleiaf o floneg tawdd ynddo. Bore mawr i ni'r hogiau ydoedd bore'r Groglith; ceid cert mul i gario'r bara, a llusgem y gert â hwyl hyd at y capel. Byddai Tom Beechy yno eisoes, yn ymyl clwyd mynwent yr hen gapel, yn prysur weithio tân mawr i ferwi dŵr. Am ddau o'r gloch cychwynnai'r orymdaith â'r faner fawr ar y blaen, ac yna'r côr canu tan arweiniad Thomas Jones, Parc Gât, neu Evan Pierce, y Goetre. Ym mhen ychydig gydag awr dychwelid i wledd fawr o de, ac ar ôl clirio'r byrddau, am chwech o'r gloch dechreuai'r cyngerdd,—cwrdd canu ac adrodd. Cenid pethau syml a swynol fel, "Wyres Fach Ned Puw," "I Fyny Bo'r Nod," "Y Bachgen