Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dewr," "I Blas Gogerddan aeth y Bardd," ac adroddid caneuon Ceiriog a Mynyddog a beirdd gwlatgar eraill, hawdd i'w deall. Nid oedd y Nadolig mor bwysig â'r Groglith; yr oedd yn fwy tebyg i'r Sul. Ni cheid gorymdaith, ond ceid te yn y prynhawn, a chyngerdd yn yr hwyr, eithr gwahaniaethent oddi wrth de a chyngherdd y Groglith; ni cheid cymaint o fara brith y Nadolig, ac nid oedd mor frith, ond yn dduach ac o well defnydd, a chodid swllt o dâl am wleddoedd y dydd. Prif hynodion y Calan ydoedd gwneuthur cyfleth y nos ymlaen a chasglu calennig hyd ddeuddeg o'r gloch y bore. Casglai nifer o gyfeillion at ei gilydd ac aent i dai arbennig i dreulio'r nos i weithio cyfleth, ac i adrodd chwedlau difyr a chanu ambell gân. Cyn toriad y wawr clywid y plant yn canu:—

Mi godes yn fore,
Mi gerddes yn ffyrnig,
At dŷ Dafydd Puw
I ofyn am glennig.

Am ddeuddeg o'r gloch ceid tawelwch mawr, ac agorai'r cybyddion eu drysau a sylwi ar y plant yn cyfrif eu harian. Nid oedd hawl i galennig ar ol deuddeg, ac felly, nid oedd berygl i gybydd ei ddangos ei hun. Dydd mawr arall oedd dydd Ffair Talybont. Ffair bleser ydoedd yn fwyaf arbennig. Gwerthid a phrynnid anifeiliaid yn y bore, ond rhoddid y gweddill o'r dydd i bleser, ac anodd fuasai taro ar well ffair. Llenwid y darn mawr tir agored sy'n wynebu'r Black Lion a'r White Lion â stondiniau yn gwerthu pob math o nwyddau i hudo plant a phobl ieuainc; ceid hefyd shoeau o bob math, ac yn ben arnynt, shoe fawr Wmbells. Cai'r cryf gyfle i brofi'i nerth, a'r saethwr gyfle i brofi'i fedr. Am fisoedd cyn y ffair casglai'r plant eu ceiniogau, a chymaint oedd eu hawydd am swm teilwng ar gyfer y ffair fel na warient ddimai yn ystod y misoedd hynny. Os cai plentyn yn ei logell ddydd y ffair o wyth geiniog i swllt, teimlai nad oedd raid iddo blygu pen i neb. Wrth gwrs, nid oedd raid gwario'r swm i gyd, oblegid braint fyddai gallu ymffrostio trannoeth