HUMPHREY JONES A DIWYGIAD '59 bod gan un weddill ar ôl gwario'i wala. Dychwelai'r plant adref tua chwech o'r gloch a gadael y ffair i bobl ieuainc a chanol oed a dynnai iddi o'r ffermydd a'r gweithfeydd mwyn plwm; glynai hefyd ambell hynafgwr hyd awr hwyr oherwydd aros yn ei waed flâs ffair ei ddyddiau bore.
Dyna fywyd diniwed a syml plwyf Llancynfelin yn yr oes o'r blaen. Nid oes ond ei gysgod yn aros. Y mae'r Groglith yno, eithr heb ei fara brith a'i ganu Cymraeg syml. Yn lle'r bara brith iach, ceir byns a theisennau bach crwn na ŵyr un dewin y tu allan i'r dref pa dda neu ddrwg sydd ynddynt, a cheir classical solos, na wyr yr hen pa un ai Cymraeg ai Saesneg a fyddant, yn lle "Hen Ffon Fy Nain," &c. Nid oes hwyl fel cynt ar y Nadolig. Y mae'r medr i weithio cyfleth wedi ei ladd gan siocolet, a dirywiodd Ffair Talybont yn raddol o fod yn ffair bleser yn ffair anifeiliaid.
Bywyd sionc ac anianol yw'r bywyd newydd. Ceir yno'n awr fendithion a breintiau'r trefydd mawr Seisnig, megis, Football Team a Tennis Club a Women's Institute a Whist Drives. Ni fu yn yr holl fro gert a mul er marw Jac Owen, coffa da am dano, ac ni cheir stori na chân fin nos wrth dân mawn mwyach.
Wele ddarlun o fywyd newydd yr ardal a gyhoeddwyd yn y "Welsh Gazette," am Awst 23, 1928,— "Taliesin.—Sports a Whist Drive.—Cynhaliwyd Sports llwyddiannus ym mharc Cletwr," (cae pori Dôl Cletwr yw hwnnw) "dydd Mercher diweddaf, o dan nawdd y Women's Institute a'r Clwb Cicio Pêl Droed. Barnwyr, Y Parchedigion Isaac Edwards a Joseph Jenkins, Mri. E. D. Thomas a T. J. Pugh. Cychwynnydd,—Mr. Thomson. Mwynhaodd y bobl ieuanc eu hunain yn fawr, gan ymdaflu i'r gwahanol weithred- iadau ag awch. Cefnogwyd y Side Shows yn rhagorol, ac yn arbennig, Pabell Madame Russell. Caed Whist Drive yn yr hwyr, a'r Parch. J. Williams, Talybont, yn Feistr y Seremoniau."
Sôn am uno'r enwadau! Methu a wnaeth crefydd a'u huno am dros gan mlynedd, ac wele'r Women Insti-