Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.

EGLWYS TRE'RDDOL.

Daeth y Wesleaid i Dre'rddol yn 1804, a sefydlwyd eglwys yno, naill ai cyn diwedd y flwyddyn honno, neu'n gynnar yn 1805. Ym mis Hydref 1804, pregethai'r Parch. Edward Jones, Bathafarn, a Mr. William Parry, Llandygai, ym Machynlleth, a digwyddodd Hugh Rowlands, Tre'rddol, eu gwrando a hoffi eu hathrawiaethau, a'u cymell i ymweled â Thre'rddol a phregethu yno hefyd. Gan fod y pentref ar eu llwybr i Aberystwyth, ac oherwydd na chymhellid hwy'n aml i ardal newydd oblegid dieithrwch eu dysgeidiaeth, cytunasant yn ewyllysgar iawn â'i gais. Y noson honno bu Hugh Rowlands wrthi'n brysur yn hau'r newydd y bwriadai'r cenhadon ymweled â'r gymdogaeth drannoeth, a phan gyrhaeddasant yr oedd tyrfa gref ac awchus yn eu disgwyl, a phregethodd y ddau yn ymyl ysgubor, gerllaw'r bont tros afon Cletwr ar ganol y pentref. Ym mhen ychydig ddyddiau dilynwyd y ddau genhadwr i'r pentref gan John Morris a oedd yn bregethwr cyffrous a llwyddiannus, a chafodd yntau groeso mawr.

Y prif resymau am y derbyniad gwresog a roddwyd i'r cenhadon Wesleaidd cyntaf ydoedd prinder gwybodaeth o'r Efengyl a oedd yn y gymdogaeth, newydddeb crefydd yr Ymneilltuwyr, ac, efallai, ymdeimlad y trigolion o'u hangen ysbrydol. Buasai offeiriaid y plwyf yn fydol eu bryd ac yn ysgafala o eneidiau a buddiant moesol y wlad am genedlaethau. Ar yr offeiriaid, wrth eu swydd, y gorffwysai'r ddyletswydd o ofalu am fywyd ysbrydol holl drigolion y wlad o Fachynlleth i Aberystwyth, a chan na faliai'r offeiriaid, rhedai llawer i rysedd annuwiol, a gorweddai'r gweddill mewn syrthni mall. Dywaid y Parch. Joshua Thomas, yn ei lyfr, "Hanes y Bedyddwyr," yr ystyrid Aberystwyth, yn fuan wedi'r Diwygiad Methodistaidd, "yn lle peryglus i ddyn crefyddol i fyned trwyddo, yn gym-