Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aint felly os nad mwy nag un dref yng Nghymru," ac mai ar ymweliad Daniel Rowlands â'r lle "y dechreuodd pobl a meddwl am eu sefyllfa dragwyddol." Y mae'n debyg, onid yn sicr, mai cenhadon Wesleaidd oedd y pregethwyr Ymneilltuol cyntaf i bregethu'r Efengyl yn y plwyf. Yn ddiweddarach y daeth gweinidogion y Methodistiaid i'r ardal, ac yn 1830 yr adeiladwyd eu capel cyntaf, yn Nhaliesin. Yn 1804, nid oedd eglwys Ymneilltuol o Fachynlleth i Aberystwyth—deunaw milltir o bellter, eithr y mae tros ugain yno heddiw. Nid anodd gweled yn y ffeithiau hyn resymau tros y croeso a roddwyd i'r cenhadon Wesleaidd cyntaf.

Ar ôl pregethu yn Nhre'rddol aeth John Morris rhagddo i Dalybont, sydd bentref mawr hir-gul ryw ddwy filltir i'r de, a phregethu yno hefyd. Yn yr oedfa gyntaf honno yn Nhalybont, yr oedd Humphrey Jones, Ynys Capel, ffermdy, bellter o filltir dda o'r pentref. Ffurfiwyd eglwys fechan, a phenodwyd Humphrey Jones yn flaenor arni. Yr un adeg ffurfiwyd eglwys yn Nhre'rddol hefyd. Methu a chryfhau a wnaeth eglwys Talybont, ac ymhen ysbaid ymunodd yr ychydig aelodau â'r eglwys yn Nhre'rddol. Nid oes ar gadw gyfrif o'r rhesymau am fethiant Wesleaeth yn Nhalybont. Daethai pregethwyr yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr i'r pentref a phregethu yno yn y flwyddyn 1803, flwyddyn lawn, o leiaf, o flaen y cenhadwr Wesleaidd. Yn nechrau 1804, cofrestrwyd tŷ bychan ym Mhenrhiw, i'r Annibynwyr addoli ynddo, ac yn y tŷ hwnnw corfforodd y Doctor Thomas Phillips, Neuaddlwyd, yr eglwys. Dechreuodd y Bedyddwyr hwythau bregethu yn Nhalybont yn niwedd 1803, ychydig ar ôl yr Annibynwyr, a chyfarfu'r eglwys ieuanc mewn tŷ ardreth ym Mhenlôn. Felly, yr oedd dwy eglwys Ymneilltuol wedi eu sefydlu yn y pentref cyn ymweled o'r Wesleaid ag ef, a dichon nad oedd y gofyn ar y pryd yn ddigon i beri llwyddiant y trydydd enwad.

Adeiladwyd capel cyntaf Tre'rddol yn y flwyddyn 1809, eithr ymhen llai na chenhedlaeth daeth galw am gapel mwy. Talwyd pum punt i'r Parch. Humphrey Jones (yr ail), ewythr, brawd ei dad, i'r Diwygiwr, am