Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III.

DYDDIAU BORE'R DIWYGIWR.

Nid oes wybodaeth sicr am y cyfryngau addysg a oedd yng nghymdogaeth Tre'rddol yn nyddiau bore Humphrey Jones. Yr Ysgol gyntaf y gwn i am dani ydoedd yr Ysgol Genedlaethol, yn Nhaliesin, a oedd tan ofal offeiriad y plwyf. Eithr prin y gallasai'r ysgol honno fod wedi'i chychwyn pan oedd Humphrey'n fachgen. Dywedai'r diweddar Evan Owen, cyfoed â Humphrey Jones, iddo ef fynychu am beth amser ysgol a gedwid mewn tŷ annedd, a Dafydd Taliesin Morris, mab Maria Morris, a gadwai dafarn "Y Frân," yn Nhaliesin, yn athro. Adnabum Dafydd Taliesin yn ei hen ddyddiau. Yr oedd yn gymeriad hynod, ac yn wahanol i bawb o ran nodweddion ei feddwl a'i ymddangosiad; gwisgai'n bregethwrol a chadwai wallt trwchus a llaes, a pheri i un feddwl am yr hen Dderwyddon. Pregethai'n gynorthwyol, a darlithiai â hwyl fawr ar "Y Rhyfel Cyntaf rhwng y Cymry a'r Rhufeiniaid." Yr oedd gandddo ddychymyg aflywodraethus, ac nid oedd ei ddarlith namyn dychmygion anhygoel o'i dechrau i'w diwedd. O ran ysgolheictod nid oedd gymhwysach i fod yn athro ysgol na phlentyn deng mlwydd yn y dyddiau hyn. Y mae'n debyg y bu Humphrey Jones ar y cychwyn tan addysg personau anghymwys ac answyddogol fel Morris; eithr dywaid ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, iddo dreulio peth amser yn ysgol Talybont, a gwelais grybwyll amryw droeon iddo fod am gyfnod yn ysgol enwog Edward Jones, yn Aberystwyth. Y mae hyn yn haws i'w gredu na pheidio gan fod ei berthynasau yn awyddus i roddi iddo'r manteision gorau, ac yn abl o ran moddion i wneuthur hynny.

Bachgen iach a hoyw a direidus ydoedd, a chanddo ddawn anarferol i ddefnyddio dryll; saethai bry' yn well na neb yn yr holl fro, a chadwodd y ddawn honno drwy wres a goleuni'r Diwygiad, a phan ddisgynnodd