Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nos drom ar ei feddwl, ni chollodd y ddawn saethu. Clywais y diweddar Evan Thomas, a oedd yn gweithio yn Nôlcletwr, yn adrodd hanes y Diwygiwr cyn ei gyrchu'n ôl i America, â'i feddwl wedi ei amharu a'r gweision yn ei wylio. Taerai ei fod cyn iached ei feddwl ag y bu erioed ac i brofi hynny, gofynnai am ddryll a pheri iddynt daflu dernyn chwe cheiniog i'r awyr, ac y saethai ef fel na welent mo hono byth mwy. Y mae'n debyg y gweithiai beth rhwng oriau'r ysgol yng Ngwarcwm-bach, fferm ei dad, ac wedyn, ar y tir a berthynai i Half Way Inn, ac wedi gorffen ei ysgol, yn Nôlcletwr; eithr dechreuodd bregethu pan oedd yn ieuanc iawn, ac yn ôl yr hanes sydd iddo, ychydig o sylw a roddodd i ddim ond pregethu byth wedyn.

Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Tre'rddol pan oedd yn ddeuddeg oed, eithr ni chafodd ymdeimlad o ddrwg ei bechod onid ydoedd yn bymtheg oed. Dywaid y Parch. J. J. Morgan,yn ei lyfr gwerthfawr,[1] iddo dderbyn oddi wrth y Parch. W. D. Evans, Carroll, Nebraska, America, brif ffeithiau ei ddyddiau bore, a gafodd Mr. Evans gan Humphrey Jones ei hun:—

"Derbyniwyd fi yn aelod o'r Eglwys," ebe Humphrey Jones, "pan nad oeddwn ond deuddeg oed. Pan oeddwn yn bymtheg oed bum dan argyhoeddiad dwys, cyffrous, ac ofnadwy, a barhaodd dros ddau fis ar bymtheg. Curwyd fi megis yng ngorweddfa dreigiau. Yr adeg hon cymhellwyd fi i bregethu, ac o ufudd-dod i eraill yn hytrach nag o'm ymdeimlad fy hun dechreuais, pan oeddwn yn un ar bymtheg oed, cyn dyfod allan o'r argyhoeddiad."

Bu'n boblogaidd a llwyddiannus fel pregethwr o'r cychwyn, ac wedi gwasanaethu Cylchdaith Aberystwyth fel pregethwr cynorthwyol am chwe blynedd, cyflwynodd y Parch. William Powell, arolygwr y Gylchdaith ar y pryd, ef a Mr. Richard Evans, y crydd, a Mr. Evan

Jones, y Goetre, a aeth wedi hynny yn offeiriad, fel

  1. "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59." Gan y Parch. J. J. Morgan.