Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymgeiswyr am y weinidogaeth Wesleaidd, yng Nghyfarfod Taleithiol Nantyglo, a gynhaliwyd yn 1854; eithr gwrthodwyd y tri, naill ai oherwydd diffyg cymhwyster neu oherwydd nad oedd gofyn am bregethwyr ychwanegol y flwyddyn honno. Un o reolau'r Wesleaid ydyw derbyn ymgeiswyr yn ôl y galw a fydd. Ni ellir bod yn bendant ar y rheswm am y gwrthod, oblegid ni cheir ef yn y Cofnodion o'r cyfarfod a gedwir yn Llyfrfa'r Wesleaid yn Llundain. Anodd fyddai meddwl mai anghymwyster oedd y rheswm. Adnabum Richard Evans, y crydd, yn dda; yr oedd ef yn ddyn eithriadol o ran gallu meddwl a chymeriad. Dysg hanes Humphrey Jones yntau na dderbyniwyd erioed i'r weinidogaeth ei gymhwysach ar rai cyfrifon. Yr oedd yn ddyn ieuanc o ddoniau naturiol anarferol, wedi ei addysgu'n well na'r cyffredin yn y dyddiau hynny, ac o dan arddeliad mawr fel pregethwr. Dywaid ef ei hun, "Dan y drydedd bregeth gyhoeddus o'r eiddof ar y geiriau, "Os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, &c.," argyhoeddwyd dau ar bymtheg o eneidiau. Yn Ystumtuen dychwelwyd deuddeg; wyth neu naw ar ddiwedd oedfa ym Mynyddbach. Mae gennyf le i feddwl ddarfod i'r Arglwydd o'i ras fendithio fy ngweinidogaeth yr adeg hon i fod yn achubiaeth i rai cannoedd o eneidiau tua pharthau uchaf sir Aberteifi."[1] Rhydd yr eglwys Wesleaidd hyd yn oed yn yr oes ddysgedig hon bwys mawr ar "ffrwyth" pregethu ymgeiswyr am y weinidogaeth, ac nid yw'n debyg y gwrthodai yn 1854, pan nad oedd bri mawr ar ddysg a gwybodaeth fydol, un a fuasai'n offeryn achubiaeth rhai cannoedd o eneidiau yn ystod chwe blynedd. Credaf i'r Cyfarfod Taleithiol fethu â derbyn Humphrey Jones am nad oedd gofyn am bregethwyr ychwanegol ar y pryd, ac nid oherwydd diffyg cymhwyster yr ymgeisydd.

  1. Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," tud. 19.