Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV.
Y DIWYGIWR YN AMERICA.

Cyn diwedd y flwyddyn 1854, ac ef yn ddwy ar hugain oed ar y pryd, ymfudodd Humphrey Jones i'r Unol Daleithiau. Yr oedd ei rieni a'i ddau frawd a'i chwaer yno ers saith mlynedd, a diau bod a fynnai hynny lawer â'i benderfyniad i ymweled â gwlad fawr y gorllewin; eithr tybiaf mai'r prif gymhellydd ydoedd y gobaith y cai yno well cyfle i fyned i'r weinidogaeth nag a roddid iddo yng Nghymru, oblegid dywedai tan loes y siom o'i wrthod gan Wesleaid Prydain, y mynnai bregethu er pob rhwystr. Teimlai fel Jeremiah,-"Ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.'

Yn America ymunodd â'r Trefnyddion Esgobol, a chafodd ei le ar unwaith fel pregethwr cynorthwyol. Pregethodd i'r Cymry am flwyddyn, yn Nhalaith New York, yn bennaf, ac ar ben y flwyddyn ordeiniwyd ef yn ddiacon yng Nghynadledd Racine, yn 1855. Ni olygai'r ordeiniad hwn fwy na derbyn un yn weinidog ar brawf. Y mae yn Eglwys y Trefnyddion Esgobol dair urdd, sef, diacon a henadur ac esgob, yn cyfateb i weinidog ar brawf a gweinidog ordeiniedig a chadeirydd Talaith, yn yr Eglwys Wesleaidd ym Mhrydain. Tymor y prawf yn Eglwys y Trefnyddion yn America yn 1885, ydoedd dwy flynedd. Derbyniodd Humphrey Jones yr urdd gyntaf, eithr nid aeth drwy hanner ei brawf. Cefnodd ar y Trefnyddion Esgobol cyn pen y flwyddyn y gwnaed ef yn ddiacon. Dywaid Mr. N. J. Smith,- "The book History of Methodism in Wisconsin,' by P. S. Bennett, p.477, shows that H. R. Jones's relation commenced with the Wisconsin Conference in 1855, and that he was discontinued as a probationer the