Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

same year, 1855."[1] Cefais hefyd dystiolaeth Ysgrifennydd y Gynhadledd ar y mater,-"I have carefully examined the Conference Minutes beginning with 1855, and the only reference to Humphrey R.Jones that I can find is that he was admitted on trial in the Wisconsin Conference at the Racine Session, 1855. Since all later records are silent as to this brother, I take it for granted that he voluntarily withdrew before the end of the year, at least before the next session of Conference. He was, however, in 1855 stationed as pastor of the Welsh Mission at Oshkosh."[2] Dywaid Humphrey Jones yntau,-"Tua diwedd y flwyddyn 1856, torrais fy nghysylltiad â'r Gynhadledd, gan fyned i bregethu yn ôl fy nhueddiad fy hun at bob enwad pa le bynnag y cawn gyfleustra."[3] Dengys y tystiolaethau uchod nad ordeiniwyd y Diwygiwr yn weinidog gan y Trefnyddion Esgobol, a chyn belled ag y gwyddys, nid ordeiniwyd. ef gan unrhyw eglwys arall. Ni bu Humphrey Jones yn weinidog ordeiniedig erioed. Wedi ei wneuthur yn ddiacon yn Racine yn 1855,penodwyd ef gan y Gynhadledd yn genhadwr i'r Cymry yn Öshkosh, Wisconsin.

Sefydlwyd eglwys Wesleaidd o Gymry yn Oshkosh, Tachwedd 30, 1855, a Humphrey Jones oedd y prif offeryn yn ei chychwyn. Nid oes wybodaeth sicr am y tymor a dreuliodd yn Oshkosh a'r cylch; y tebyg ydyw na bu yno fwy na blwyddyn.

Bu'n ddiwygiwr nerthol yn America am yn agos i ddwy flynedd cyn dychwelyd ohono i Gymru yn 1858, ac yn America y rhoddwyd iddo'r enw "Humphrey Jones, y Diwygiwr." Yn Nhalaith Wisconsin y teimlwyd gyntaf rymuster mawr ei genadwri. Adfywiwyd holl eglwysi Cymraeg y Dalaith a dychwelwyd cannoedd o bechaduriaid. "Y lle," ebe fe," y dechreuais lafurio

  1. Llythyr oddi wrth Mr. N. J. Smith, Llyfrgellydd Cynorthwyol y Drew Theological Seminary, Madison, New Jersey, dyddiedig Ebrill 5, 1928.
  2. Llythyr oddi wrth y Parch. C. H. Wiese, Ysgrifenyndd Cynadledd Wisconsin, dyddiedig Ebrill 27, 1929.
  3. "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," tud. 20.