Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddo fel diwygiwr oedd Cambria, Wisconsin. Arhosodd un ar hugain ar ôl yn y cyfarfod cyntaf o'r gyfres, sef y cwbl yno ond un." Bu yn Cambria a'r gymdogaeth am fis. Bu wedi hynny am beth amser ym mharthau Oshkosh, ac yna aeth i Sefydliad Waukesha, ac yno, ebe ef ei hun, "y torrodd y wawr fawr a'r diwygiad nertholaf ynglŷn â'm gweinidogaeth yn America." Cafodd rai o'r oedfaon rhyfeddaf a welodd erioed ym Milwaukee, a dychwelwyd pump a deugain at grefydd. Teithiodd yn amlder ei rym trwy Ohio a Phensylfania a New York. Yn Oneida, New York, pregethai'n Gymraeg a Saesneg, a dychwelwyd tua saith gant trwy ei genhadaeth. Effeithiwyd llawer ar ysbryd Humphrey Jones gan y Diwygiad mawr a gychwynnwyd yn America trwy un o'r enw Lanphler, a oedd yn Genhadwr Trefol yn perthyn i'r Dutch. Aeth dylanwad y Diwygiad hwnnw trwy'r holl Daleithiau, a dychwelwyd 600,000 at grefydd; eithr nid cynnyrch y Diwygiad hwn oedd ef, oblegid ym Medi, 1857, y dechreuodd y Diwygiad a ddaeth trwy Lanphler, ac yr oedd Humphrey Jones yn Ddiwygiwr yn ei gyfarfod cyntaf yn Cambria, tua diwedd 1856.

Yr oedd i'r Diwygiwr a'i bregethu eu nodweddion arbennig. Yn fuan wedi marw Humphrey Jones caed yn "Y Drych," ysgrif goffa iddo gan Mr. G. H. Humphreys, cyn-olygydd y papur. Ceryddai'r ysgrif yn llym Gymry America, ac yn arbennig weinidogion Cymreig y wlad, oherwydd eu difaterwch ynglŷn â'i goffadwriaeth. Fel ffrwyth cerydd Mr. Humphreys caed yn "Y Drych," ddwy ysgrif werthfawr ar y Diwygiwr, y naill gan y Parch. H. O. Rowlands, D.D., a'r llall gan y Parch. H. P. Powell, D.D. Rhydd yr ysgrifau hyn y wybodaeth orau a feddwn am y Diwygiwr a'i waith yn yr Unol Daleithiau cyn iddo ymweled a Chymru yn 1858. Y mae'r ddwy ysgrif yn cydolygu, eithr y gyflawnaf o lawer ydyw eiddo'r Parch. H. O. Rowlands, ac oherwydd hynny, ynghyda'r ffaith i'r Parch. J. J. Morgan yn "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," fanteisio ar dystiolaeth y Doctor Powell, defnyddiaf yn helaethach ysgrif y Doctor Rowlands nag ysgrif Powell.