Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan ddaeth Humphrey Jones yn amlwg fel Diwygiwr yr oedd yn ddyn ieuanc cryf o ran corff, ac yn hardd a diymhongar. Fel pob dyn sy'n llwyddo tuhwnt i'r cyffredin i symud ac arwain y miloedd, yr oedd ganddo bersonoliaeth anarferol gref, ac yn llawn gwefr a drydanai'r tyrfaoedd. Ceir arwyddion o hyn hyd yn oed yn ei ddarlun. Nid yw'n debyg y rhagorai ar ei gyfoedion o ran galluoedd meddyliol, eithr rhagorai ar y mwyafrif o honynt o ran diwylliant. Cafodd addysg elfennol dda, ac yn ôl tystiolaeth y Parch. John Hughes Griffiths, ei gefnder, gwyddai beth am yr ieithoedd Groeg a Lladin. Fe'i paratôdd ei hun ar gyfer y weinidogaeth yng Nghymru, a chymeradwywyd ef fel ymgeisydd cymwys gan y gweinidog poblogaidd, y Parch. W. Powell, a holl eglwysi Cylchdaith Aberystwyth. Golygai'r gymeradwyaeth honno fod ganddo wybodaeth gywir, onid eang, o wirioneddau sylfaenol ac athrawiaethau'r grefydd Gristnogol. Felly, pan safodd Humphrey Jones yn bedair ar hugain oed, i wynebu Cymry America, yr oedd yn gymwys i fod yn ddiwygiwr o ran corff a meddwl a gwybodaeth. Eithr nid yw hyn i gyd namyn deunydd i weithio arno. Y mae'n rhaid wrth gymwysterau moesol ac ysbrydol, oblegid gwyddys am gannoedd sydd ar yr un gwastad a Humphrey Jones o ran deall a diwylliant a gwybodaeth, nad ydynt yn ddiwygwyr o fath yn y byd. Tystia'r sawl a'i hadnabu ei fod yn gymeriad glân ac unplyg, a'i fryd yn llwyr ar bethau ysbrydol, ac y treuliai oriau bob dydd a phob nos mewn gweddi. Trwy ei weddiau dirgel y deuai i'w fywyd nerth, a thrwy ei weddiau cyhoeddus yr aethâi nerth i'w gynulleidfaoedd. Dysg pawb a'i hadnabu yn America a'r wlad hon mai dirgelwch ei gryfder ydoedd ei weddio. "Fel gweddiwr," ebe'r Doctor Rowlands, " yr oedd yn rymus- ach nag fel pregethwr; pan elai ar ei liniau i ymbil tros gadwediageth enaid . ymddangosai i mi fel pe'n ystormio'r nefoedd." "Ni allaf," ebe'r Parch. J. C. Jones, D.D., Chicago, "Ni allaf anghofio'i weddiau a'i amenau. Yr oedd mwy o ddylanwad ysbrydol yn ei amenau ef nag oedd yn fy mhregethau i." Nid oes ddadl nad oedd Humphrey Jones yn ddyn ysbrydol