Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn, eithr nid ei ysbrydolrwydd a'i gwnaeth yn ddiwygiwr, er bod hynny yn hanfodol, oblegid bu eraill llawn mor ysbrydol ag yntau na fuont erioed yn ddiwygwyr. Duw a'i dewisodd. Yr oedd yn llestr etholedig. Paham y'i dewiswyd o blith ei gydradd ni wyddys, ond ei ddewis a wnaed, a'i eneinio i'w waith mawr. Cyn dechrau ar ei yrfa fel diwygiwr yr oedd yn gydradd â dynion ieuainc meddylgar a duwiolfrydig eraill, eithr y foment y gwnaed ef yn ddiwygiwr aeth yn fwy na phawb ac o flaen ei oes. "Yr oedd y drydedd ran o ganrif o flaen yr oes Gymreig yn ei amgyffredion o'r moddion effeithiolaf i ddeffroi eneidiau a'u hargyhoeddi o'u dyletswyddau. Petai'n ymddangos yn awr byddai i fyny ag ysbryd yr oes, ac efallai yn fath o Foody[1] arweiniol yn Seion. Y mae'n amheus gennyf a ymddangosodd erioed yn hanes crefydd y Cymry yn America un pregethwr a wnaeth argraff ddyfnach ar ei oes, na mwy o les i'w gyd-ddynion."[2]


Yr argraff gyffredin yn ardal Tre'rddol pan oeddwn i'n hogyn ydoedd mai pregethwr bach ac o nodwedd arwynebol, oedd Humphrey Jones. Addefid y rhagorai ar bawb o ran gwres ysbryd a dawn gweddi, ond pregethwr gwan ydoedd; eithr nid oedd hyn namyn dyfalu rheswm tros wrthod iddo le yn y weinidogaeth yng Nghymru. Y mae'n rhywyr dileu'r argraff gyfeiliorn hon. Yn ol tystiolaeth y sawl a'i clywodd yn America cyn ei ddychwelyd i Gymru yr oedd yn bregethwr gwych ac o fedr a grymuster mawr. Dywaid y Doctor Rowlands, "Yr oedd yn gyfansoddwr pregethau rhagorol. Clywais ganddo bregethau pan oeddwn fy hun yn weinidog oedd yn orchestol o ran cynllun ac iaith.. Yr oedd hefyd yn deimladwy a thyner, a'i ddawn llefaru yn gyfoethog... Yr oedd yn draddodwr nodedig o rymus."[2]

Ar gychwyn gyrfa'r Diwygiwr nodwedd bynciol oedd i bregethu Cymry America, a'r pynciau a'r damcaniaethau fynychaf yn astrus a diles, eithr apeliai Hum-

  1. Dwight L. Moody
  2. 2.0 2.1 Erthygl y Doctor H. O. Rowlands yn "Y Drych."