Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phrey Jones â grym mawr at y gydwybod yn ogystal â'r deall, a pheri i'r gynulleidfa deimlo y deuai hen wirioneddau yn newydd iddynt oherwydd y sylw eithriadol a wnai o berthynas ysbrydol dyn â Duw, drygedd irad pechod a'i ganlyniadau, toster y farn ddiwethaf, cyni angerddol uffern, a'r galw mawr am edifeirwch. Byddai'i ysbryd a'i bregethu mor ddwys a difrifol, ac ar brydiau, mor gynhyrfus a brawychus, oni lethid y gwrandawyr yn llwyr. "Difrifol a dwys a llethedig oedd ei eiriau fel ei ymddangosiad. . . Yr oedd mor faterol a realistic ag Inferno Dante. Yn wir yr oedd yn echryslawn. Y pryd hwnnw dychrynwn gan ofn. Nid ar wragedd a phlant yn unig y dylanwadai, ond ar ddynion deallus a dysgedig hefyd. Toddai calonnau celyd dynion a oedd wedi clywed cewri Cymru, ac ildiodd cannoedd o honynt i ofynion Duw arnynt trwy weinidogaeth Mr. Jones."[1] Yr oedd iaith ei bregeth yn ddewisol a glân, a'i lais yn fawr a pheth swyn ynddo, a gwnai ddefnydd helaeth o gymariaethau a hanesion pwrpasol. Ymhlith testunau'i bregethau yr adeg hon yr oedd "Beth a wnewch yn nydd yr ymweliad?" "Pa hyd y cloffwch rhwng dau feddwl?" "Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni." Dengys y testunau hyn nodwedd ei bregethu fel diwygiwr yn America.

Pan oedd y Doctor H. O. Rowlands yn ŵr ieuancy mae'n awr yn bedwar ugain oed—treuliodd Humphrey Jones amryw wythnosau yn ei gartref yn Waukesha, Wisconsin, ac edmygai'r teulu ef y tuhwnt i bob mesur, oherwydd ei ddoniau a'i ysbrydolrwydd. Synia'r Doctor yn uchel am dano fel efengylydd,—"Yr oedd yn un o'r diwygwyr mwyaf grymus a adnabum i; nid oedd ei gyffelyb ymhlith y Cymry. Yr oedd ei bregethau wedi eu meddwl a'u gorffen yn dda; gallaf alw rhannau ohonynt i'm cof yn awr. Pregethai'n gwbl realistic cyn belled ag y mae canlyniadau pechod yn bod,—cyffyrddiad o Jonathan Edwards, ond yn odidog o gymhwysiadol at yr amseroedd a'r bobl a gyfarfyddai. Sylweddolai'r hyn a bregethai; yr oedd y bregeth yn fynegiant o'i

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Row