Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

argyhoeddiadau a'i deimladau dyfnion. Ond yr oedd ei weddiau yn hynotach ac effeithiolach na hyd yn oed ei bregethau. Meddai bersonoliaeth gref a gwefraidd iawn, ac mor drydanol oedd ei apeliadau ar brydiau nes y gorchfygai'r cynulleidfaoedd yn llwyr. . . Yr oedd yn ddyn mawr yn ei amser ef, yn ddyn duwiolfrydig, yn anrhydeddu Duw ac yn caru dynion."[1]

Y mae'r hanes a rydd y sawl a adnabu Humphrey Jones yn America yn peri credu bod chwe pheth yn cyfrif am ei ddylanwad a'i lwyddiant anarferol, sef, nerth corff a'i harddwch, praffter deall, huodledd naturiol, personoliaeth fagnetaidd ac ysbrydolrwydd meddwl, ac at y cwbl, ac yn bennaf, ei ddewisiad i'r gwaith gan Dduw. "Myfi a'th elwais mewn cyfiawnder, ymaflaf yn dy ddwylaw, cadwaf di hefyd." Nid oes dim a ysgrifennwyd yng Nghymru a rydd y pwys a ddylid ar waith Humphrey Jones fel diwygiwr yn America. O'r pedair blynedd a dreuliodd yno adnabyddid ef am ddwy ohonynt fel diwygiwr. Y mae'n amheus a oedd Cymro yn yr holl wlad na theimlodd ddylanwad ei gyfaredd ysbrydol. Teithiodd filoedd o filltiroedd, gweddiai a phregethai'n ddibaid, ac aeth ei ddylanwad fel gwynt nerthol yn rhuthro trwy'r holl Sefydliadau Cymreig. Pregethai mewn mannau i'r Saeson hwythau, â'r un effeithiau i'w bregethu a phan efengylai i'r Cymry. Trwy gydol y ddwy flynedd bu'n gweithio'n ddiatal mewn awyrgylch brwd a ferwai'n dawel gan dân anweledig; dyna nodwedd y Diwygiad,—dwyster distaw a llethol, ac nid llefain a gorfoledd; ddydd a nos am ddwy flynedd bu pob gewyn corff a phob egni ysbryd y Diwygiwr ar eu llawn gwaith,—yn dynn hyd dorri. Bydd yn ddoeth cofio'r dreth drom hon ar ei nerfau pan ddeuir i weled ei haul yn machlud.

  1. Llythyr y Doctor H. O. Rowlands, dyddiedig Rhagfyr, 1927.