Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V.
YMWELED Â CHYMRU.

Yn aml, os nad fynychaf, daw terfyn i gyfnodau hir o ddifrawder crefyddol a materolaeth galed ym mywyd cyhoeddus Cymru trwy ddiwygiadau crefyddol nerthol. Yr awr dywyllaf yw'r agosaf i'r dydd. Gwelir hyn o fyned heibio'r diwygiadau lleol, megis eiddo Llangeithio a Beddgelert ac eraill, a meddwl am y rhai a effeithiodd ar fywyd cyfan y genedl. Dilyn cyfnod maith o syrthni crefyddol a bywyd moesol cyhoeddus ysgafala a marw a wnaeth y Diwygiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif. Er bod amryw weinidogion teilwng o ran eu bywyd a'u hymdrech yn yr hen eglwysi ymneilltuol, megis Edmwnd Jones, Pontypwl, Vasavor Griffiths, ym Maesyfed, a Philip Pugh, ac yn yr Eglwys Esgobol, ambell un fel Griffith Jones, Llanddowror, ac er nad ydyw pennill Pantycelyn yn llythrennol gywir,—

Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na Ffeiriad,
Nac un Esgob ar ddi-hun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym iâs,
Yn llawn gwreichion goleu tanllyd,
O Drefecca fach i mâs,

eto, dysg yr Hybarch Joshua Thomas yn "Hanes y Bedyddwyr," mai anwybodaeth ac anfoesoldeb mawr oedd ymhlith y cyffredin bobl, pan ddaeth Howel Harris, "O Drefecca fach i mâs." Dilyn cyfnod ffurfiol ac oer a wnaeth Diwygiad 1905 yntau. Ni pherthynai i'r eglwysi yng nghyntefin 1905 anwybodaeth yr eglwysi y codwyd Howel Harris i'w goleuo, o'r hyn lleiaf, nid oedd y tywyllwch cyn ddued, ond yr oeddynt hwythau yn oer a diynni a diffrwyth. Crefyddwyr cymen oedd trwy'r wlad, yn gwario'u hamser ar ddyfalu