moddion i' gynnal yr Achos.' Treulient hynny o frwdfrydedd a feddent ar fasârs a chymanfaoedd. Yn hytrach na bod yn ysbryd a bywyd dirywiasai crefydd yn organyddiaeth lem a chymhleth. Ni lefai neb "dyro i mi drachefn o orfoledd dy iachawdwriaeth," a digwydd anarferol oedd achub enaid. Nid oedd achos cwyno mawr ym mywyd cyhoeddus y wlad. Yr oedd y werin. yn llawer mwy diwair a sobr a geirwir a gonest nag y bu erioed. Eithr er bod yr wyneb yn lled lân a theg, yr oedd ysbryd cymdeithas yn fydol ac yn llawn gwanc am bleser arwynebol. Galwyd Evan Roberts i ysgwyd y wlad o'i syrthni moesol mall, a gosod ei bryd ar fuddiannau arhosol bywyd.
Cyffelyb ydoedd nodweddion crefyddol a moesol Cymru yn 1859. Yr oedd yr eglwysi mor oer a llesg, ac wedi parhau felly cyhyd, oni thybiai'r Parch. Abel Green, Aberaeron, nad oedd namyn gwyrth annisgwyliadwy a fedrai roddi ynddynt fywyd a gwres. Pan hysbysodd Humphrey Jones ef yn Lerpwl, ei ddyfod i roddi Cymru ar dân, chwerthin ynddo'i hun a wnaeth Mr. Green a theimlo awydd gofyn, "Wele pe gwnai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd a fyddai y pethau hyn?"[1]
"Efallai," ebe'r diweddar Barch. J. Morgan Jones, Caerdydd, "na bu cyfnod is ar grefydd yn Sir Aberteifi oddiar gychwyn Methodistiaeth, na'r blynyddoedd 1856-1858."[2] Cyflwr crefyddol isel Ceredigion. ydoedd cyflwr holl Siroedd Cymru ar y pryd, a dyma'r cyflwr y galwyd Humphrey Jones o America i'w wynebu.
Tua therfyn ei ddwy flynedd o waith fel diwygiwr yn America aeth i feddwl Humphrey Jones y dylai ymweled â Chymru a gweithio yno hefyd. Gellir meddwl am amryw bethau a allai ei gymell i hyn. Yr oedd wedi gweithio'n hir ac effeithiol yn y mwyafrif o'r Sefydliadau Cymreig yn yr Unol Daleithiau, os nad ym mhob un, a dichon y teimlai nad oedd berygl mawr i'r tân a gyneuasai ddiffodd hyd oni wnai ei waith yn llwyr gan fod y Diwygiad ar ei nerth mwyaf trwy America. Dy-