wedir nad oedd yr iaith Saesneg yn fagl i'r Diwygiwr, ond Cymraeg oedd ei iaith ef, a phregethwr Cymreig ydoedd, a hwyrach y teimlai fod yn y Taleithiau Saeson ac eraill, fel Lanphler, a wnai gyfryngau effeithiol i Dduw weithio'r Diwygiad trwyddynt mewn poblogaeth mor fawr a chymysg. Tybiaeth yw'r eglurhad hwn, ond y mae'n ddigon syml a naturiol i fod yn gywir. Eithr y mae sicrwydd am ei brif gymhellydd. Gwyddai am lesgedd a diffrwythder crefydd yng Nghymru, a theimlodd awydd angherddol gref am fudd ysbrydol eglwysi'r hen wlad ac iechydwriaeth yr annychweledig. Argyhoeddwyd ef yn America y dylai fod yn ddiwygiwr ymhlith y Cymry yn annibynnol ar bob enwad, eithr ei fwriad ynglŷn â Chymru ydoedd cyfyngu ei wasanaeth i'r Wesleaid yn fwyaf arbennig, oherwydd tybio y byddai iddo rwystrau yng Nghymru rhagor yn America oblegid culni enwadol. Y mae'n amlwg yr ofnai'r hen gulni sydd wedi ein nodweddu ar hyd y cenedlaethau, ond dyheai ef am lwyddiant ysbrydol a chyffredinol y genedl, a dywedai, "Buasai'n orfoledd anhraethol gennyf pe buasai yr Arglwydd yn codi diwygwyr ymhlith pob enwad. Yr wyf yn credu y gwnaiff Ef, a bod cyfnod dedwydd wrth y drws pan fydd Seion yn ben moliant ar y ddaear. Yr wyf yn credu bod diwygiad mawr i ym- weled â Chymru yn fuan."[1] Cyfiawnhawyd ei ffydd trwy sylweddoli ei broffwydoliaeth. Eithr ei gyfyngu ei hun i fesur i'r enwad Wesleaidd a wnaeth ef fel y gwelir ymhellach ymlaen yn ei hanes.
Cyrhaeddodd y Diwygiwr Lerpwl yn niwedd Mehefin, 1858. Arhosodd yn y ddinas tros y Sul yn nhy'r Parch. William Jones, gweinidog y Wesleaid. Pregethodd fore Sul yn lle'r gweinidog yn hen gapel Ben's Garden, ond gwrthododd bregethu yn yr hwyr oherwydd na theimlai'n gwbl iach. Dywedai wrth y Parch. William Jones y bwriadai gynnal cyrddau adfywiadol yn Aberystwyth a'r cyffiniau.[2]