Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyrraedd Tre'rddol.-Teithiodd Humphrey Jones o Lerpwl i Dre'rddol, yng ngogledd Ceredigion, yn y Coach Mawr, a disgyn wrth ddrws yr Half Way Inn, y tŷ y'i maged ynddo am rai blynyddoedd wedi myned o'i rieni. i America. Gwesty cadarn a diymffrost a bair feddwl am gewri'r hen oesoedd yw'r Half Way Inn. Ni bu ynddo na masnach na miri gwerth sôn am danynt, ac eithrio "Dydd Sadwrn Pen y Mis," ers mwy na dwy genhedlaeth. Y tebyg yw mai'r rheswm am westy mor fawr, a'i ystablau helaeth, mewn pentref mor fach ydyw, ei fod yn un o orsafoedd y Coach Mawr. Yno y newidid ceffylau ac y cai'r teithwyr luniaeth. Y fath fraint i ni fuasai gweled y pedwar ceffyl ffres a hoenus, clywed canu'r corn a chrac y chwip, a dilyn y cerbyd yn ymddolennu am y tro yn y ffordd hwnt i dŷ Mari Pritchard, a'i golli yn y pellter draw tros y Graig Fach! Da, mi wn, oedd gan y Diwygiwr weled yr Half Way eilwaith; ac anodd meddwl nad oedd ei fodryb Sophia, Dolcletwr, yno i'w groesawu. I Ddolcletwr yr aeth Humphrey, ac yno y bu hyd derfyn ei genhadaeth yn y gymdogaeth. Cyrhaeddodd y Diwygiwr Dre'rddol Mehefin 25, 1858, a thrannoeth i'w ddyfod cleddid William James, Llannerch,[1]. hen ŵr pedwar ugain a dwy. Pentref bychan yw Llannerch ar fin y ffordd rhwng Tre'rddol a Chraig y Penrhyn; ac yno yn angladd yr hen ŵr, y gwnaeth Humphrey Jones ei waith cyhoeddus cyntaf trwy offrymu gweddi. Dywaid Mrs. John Morris Davies, Tre'rddol, a'i cofia'n dda, iddo esgyn i ben y mur a oedd o flaen y tŷ a gweddio. Gwyddai pawb a oedd yn yr angladd am y gweddiwr; clywsent ef yn gweddio a phregethu cyn ei fyned i America; eithr ni chlywsent ddim fel hyn; ni chlywsent weddio erioed fel y gweddio hwn. Yr oedd tyfiant Humphrey Jones mewn pedair blynedd yn anfesuradwy. Teimlent y cyffyrddai â'r nefoedd a pheri ei hagor oni ddisgynnai bendithion yn gawodydd ar y ddôl lonydd. Dechreuodd Diwygiad 59 mewn angladd.

  1. Gelwid ef hefyd yn William Jones, eithr yn ôl Coflyfr Claddu Eglwys Llancynfelyn, ei enw bedyddiedig oedd William James