Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Sul yn dilyn yr angladd yn Llannerch pregethodd y Diwygiwr deirgwaith yng nghapel Tre'rddol; am ddeg yn y bore ar, "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion," Amos vi. 1 ; ac am ddau ar, " Hwy a aethant yn ôl, ac nid ymlaen," Jer. vii. 24; a'r hwyr ar, "Am nad ydych nac oer na brwd," Dat. iii. 15.[1] Eithr dywaid Cofiant y Parch. Dafydd Morgan bregethu ohono brynhawn y Sul yn Eglwysfach ar yr olaf o'r tri thestun a nodwyd. Dichon nad oes fodd gwybod o'r pellter hwn pwy sydd gywir. Byddai'n ddigon naturiol iddo fyned i Eglwysfach, dair milltir i'r gogledd o Dre'rddol, a naturiol hefyd fyddai i rywrai oddi yno a oedd yn yr angladd yn Llannerch, ac a deimlodd eneiniad y weddi, geisio ganddo eu gwasanaethu y Sul dilynol. Ond nid yw'r peth o bwys mawr. Am yr wythnos a ddilynai'r Sul cyntaf hwn cynhaliwyd cyrddau gweddi, ac ar ddiwedd pob cyfarfod cymhellid pechaduriaid i ymddiried yn y Gwaredwr. Ymhen ychydig nosweithiau ildiodd amryw i'r cymhellion, ac adfywiwyd yr holl eglwys.[2] O hyn allan, am fis cyfan, pregethodd Mr. Jones deir- gwaith ar y Sul a phob nos o'r wythnos. Pregethai'n fyr a diwastraff a dirodres, heb amcanu o gwbl at yr hwyl Gymreig boblogaidd, eithr llosgai ei eiriau yn oleuni yn neall ac yn dân yng nghydwybod y gynulleidfa, a chynhyrchid ofn dwys a dieithr. Ar ôl pregethu disgynnai i'r allor a gweddio, a pheri i eraill weddio, ac yna clywid ocheneidiau'n dianc a sŵn wylo uchel. Nid oedd ym misoedd cyntaf Diwygiad '59 ddim o'r gwylltio a'r gorfoleddu nwydus a geid yn fynych yn Niwygiad 1904-5. Nodwedd amlycaf Diwygiad 1859, yn Nhre'rddol, ac mewn lleoedd eraill, yn y misoedd cyntaf, ydoedd wylo a dwyster llethol. Cynhyrchid ofn hyd fraw, oblegid cenadwri gyffrous oedd gan y Diwygiwr,-cyhoeddi gwae i'r sawl a oedd esmwyth arnynt yn Seion,

cymell yr annuwiol i ffoi rhag y llid a fydd, a son am

  1. Ysgrif y Parch. J. Hughes Griffiths, M.A., yn "Y Fwyell," Tach., 1894
  2. Ysgrif Humphrey Jones yn "Yr Herald Cymraeg," Awst, 15 1858.