farn galed ar y gwrthnysig; cynhyrchid braw mewn miloedd, eithr nid torri allan mewn llefain cryf a wnai, ond peri iddynt blygu mewn dagrau dwys.
Yr oedd y diweddar Thomas Jones, y Post, Taliesin, yn ddyn meddylgar a phwyllus, ac yn arfer pwyso'i eiriau, ac yn un o'r cymeriadau mwyaf a adnabum i; ef hefyd oedd prif ddyn yr eglwys ar y pryd, a bu'n dyst o holl ddigwyddiadau pum wythnos gyntaf y Diwygiad, ac ni phetrusaf roddi ei dystiolaeth heb ofni bod y mesur lleiaf o ormodiaith ynddi,—"Y mae adfywiad. crefyddol grymus wedi torri allan yn y lle uchod, (Tre'r— ddol), yn bennaf trwy weinidogaeth y Parch. Humphrey R. Jones, diweddar o America. . . . Dechreuodd gynnal cyfarfodydd diwygiadol, a pharhaodd am bum wythnos felly yn ddidor, ar y Sabothau a phob nos o'r wythnos, a'r canlyniad i'r ymdrech oedd chwanegu 60 at nifer yr eglwys. Hefyd y mae'r gynulleidfa wedi lluosogi yn fawr, ac amryw yn bwrw eu coelbren i blith pobl yr Arglwydd yn barhaus. Nid peth bach oedd cael cynulleidfa ar y fath adeg brysur, ond y mae'n dda gennym ddywedyd fod y capel yn orlawn bob cyfarfod, a'r dylanwadau mor rymus nes y bydd pechaduriaid yn codi o ganol y gynulleidfa ac yn dyfod ymlaen at yr allor i ofyn i'r eglwys weddio gyda hwy am drugaredd, ac, O! y fath ddylanwadau oedd yn canlyn. Y nos Saboth olaf y bu Mr. Jones yma gofynnodd i'r dychweledigion ieuainc a oedd yn benderfynol o ddilyn yr Oen roddi eu llaw iddo ef fel arwydd o hynny, a dyna'r gynulleidfa yn ferw drwyddi, a phob un yn dyfod ymlaen at yr allor yn un foddfa o ddagrau, a'r holl gyn— ulleidfa yn wylo gyda hwy."[1]
Rhydd yr hynafgwr Capten Richard Jones, Hopewell, Borth, rai ffeithiau a brawf fawredd dylanwad y Diwygiad ar drigolion Tre'rddol a'r amgylchoedd. Tynnai'r bobl yn finteioedd o bob cyfeiriad i'r pentref, —pentrefwyr Talybont a Thaliesin o du'r De, a gwerinwyr Eglwysfach o du'r Gogledd, bugeiliaid ac amaethwyr y mynyddoedd, a thyddynwyr Mochno o Ddyfi i'r
- ↑ "Yr Eurgrawn Wesleaidd," Hydref, 1858. tud. 356.