Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mynydd. Trwy haf 1858 cydforiai y Capten Richard Jones â Dafydd Owen, y Commercial Inn, Tre'rddol, a phan darient yn Stetten, Germany, daeth i Ddafydd lythyr o'i gartref â hanes y Diwygiad, ac yr oedd yn y llythyr hwnnw eneiniad a aeth i ysbryd y ddau forwr oni hiraethent am brofi'r dylanwadau newydd. Ymhen peth amser hwyliwyd am y wlad hon a chael y Coach Mawr o Amwythig i Aberystwyth. Wedi cyrraedd Tre'rddol yn gynnar y prynhawn caed yr anhawster mwyaf i yrru'r cerbyd heibio i'r capel gan faint y dorf. Yr oedd y capel yn orlawn a'r heol o bobtu iddo am tua hanner milltir yn dynn o bobl, hen ac ieuainc, yn addoli, rhai yn gweddio ac eraill yn moliannu, a phawb yn hunanfeddiannol a threfnus. Caed y Commercial Inn yn wag a than glo, a bu'n rhaid i Ddafydd Owen aros rai oriau i gael drws agored. Yr oedd y teulu a'r hen ddiotwyr i gyd yn y capel yn gaethion ewyllysgar i nerthoedd mawr y Diwygiad. Bedair blynedd wedyn, gwelodd y Capten Richard Jones dân y Diwygiad yn cynnau yn y West Indies, wedi ei gludo yno o Gymru gan forwyr o draethau Bae Ceredigion.[1]

Yn ystod pum wythnos ei genhadaeth yn Nhre'rddol pregethodd y Diwygiwr rai troeon mewn mannau eraill cyfagos, megis Eglwysfach a'r Borth a Phontgoch. Nid oes hanes iddo bregethu o gwbl yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, yn Nhaliesin, y pentref agosaf. Clywais ddywedyd ddengwaith na fynnent, mohono yno am mai Wesle ydoedd, a bod culni enwad yn fur trwchus ac uchel rhwng dwy eglwys y ddau bentref. Y mae'n hawdd gennyf gredu hyn, oblegid yr oedd y culni annuwiol yn aros fwy na chenhedlaeth wedi'r Diwygiad, a'r bai i'w rannu rhwng y ddwy eglwys; nid oedd ddau yn yr holl blwyf a ŵgai fwy ar ei gilydd nag eglwysi Tre'rddol a Thaliesin. Dichon nad oedd hyn namyn effaith y dadlau brwd a fu ar y "Pum Pwnc" ymhell yn ôl; darfuasai sŵn magnelau'r frwydr fawr, ond arhosai'r mwg i dywyllu'r wybren. Eithr

  1. Llythyr dyddiedig Awst, 1926.