Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ciliodd y mwg yn raddol, ac ers blynyddoedd bellach cydaddola'r ddwy eglwys ar brydiau mewn awyr glir a chynnes.

Wythnos cyn terfynu'r genhadaeth yn Nhre'rddol cynhelid gwyl bregethu ym Mhontgoch, pentref bach disyml yng nghanol y mynyddoedd, ryw bum milltir o Dre'rddol, a galwyd ar Humphrey Jones i roddi pregeth yn oedfa'r hwyr. Gwasanaethwyd yn y bore a'r prynhawn gan y Parch. Rowland Whittington a Mr. T. Rees, Aberdyfi. Yr oedd y ddau yn bregethwyr da, ac yn arbennig Rowland Whittington. Cyraeddasai hefyd swn y Diwygiad a llanw'r mynyddoedd, a disgwylid pethau mawr yn yr ŵyl; ond er pob ymdrech a disgwyl, awyr drom a naws oer a gaed yn y ddwy oedfa. Ymgasglodd tyrfa fawr, llond y capel a'r fynwent, i oedfa'r hwyr. Yr oedd tair pregeth yn yr oedfa hon. Pregethodd Rees a Whittington ar eu gorau heb ddyfod dim newydd namyn ambell amen fawr gan Humphrey Jones. Teimlai'r gwrandawyr bod yr "awyr yn blwm." Yna aeth y Diwygiwr i'r pulpud a darllenodd i'w ganu yr hen emyn-

Bywyd y meirw, tyrd i'n plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwyth;

ac ar drawiad aeth dylanwad dieithr fel trydan trwy'r gynulleidfa, a chanwyd yr emyn drosodd a throsodd. Pregethodd Mr. Jones am ugain munud ar "Deffro di yr hwn wyt yn cysgu." Yr oedd Mr. Thomas Williams, Ystumtuen, a chyfaill iddo yn yr oedfa, a dyma'i dystiolaeth ef,-"Yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a mwy o bobol y tuallan nag oedd y tumewn; ond yr oedd y ffenestri wedi eu hagor, felly yr oedd y rhai oedd allan yn uno yn yr Amenau.' Dyma'r cyfarfod mwyaf ei ddylanwad y bum ynddo erioed; rhyw ail Bentecost oedd hi. Ar ôl gorffen y bregeth, aeth y pregethwr i weddi cyn canu. Gweddiodd yn syml iawn, ond O! y fath effaith oedd ar y gynulleidfa. Cyn iddo orffen yr oedd ugeiniau yn gweddio'n gyhoeddus, nes boddi llais y pregethwr. Gan fod gennym o bedair i bum milltir i fyned adref, gwelem fod yn hen bryd cychwyn. Cawsom