gryn drafferth i fyned allan o'r capel, ac ar ôl cyrraedd y drws, trafferth fwy i gyrraedd yr heol, gan fod y lle wedi ei gramio y tuallan rhai yn canu, eraill yn gweddio, a'r lleill yn moliannu. Wedi cyrraedd pen y bryn troesom ein hwynebau'n ôl, ac yr oedd sŵn cân a moliant yn dadseinio drwy'r cwm cul. Yr oedd yn anodd peidio â throi yn ôl er ei bod yn hwyr."[1] A fedr y sawl a wâd yr ysbrydol yn niwygiadau crefyddol Cymru, ac a broffesa esbonio'r cwbl heb gyfrif ar y goruwchnaturiol egluro paham yr effeithiwyd pethau mor fawr a rhyfedd trwy ychydig eiriau syml Humphrey Jones rhagor trwy bregethau cryfion y ddau bregethwr arall?
Er i'r Diwygiwr ei gyfyngu ei hun a'i waith bron yn gwbl i Dre'rddol am y pum wythnos gyntaf, llosgodd y tân a gyneuwyd trwyddo i'r pentrefi cyfagos, sef, Eglwysfach a Thalybont, ac o'r rheini i Fachynlleth a Chorris a Llanbrynmair, ac i fyny'n uwch ac ymhell i'r Gogledd, ac o du'r De, i'r Borth ac Aberystwyth a mannau eraill. Y gwaith mawr ydoedd cynnau'r tân; llosgai ar bob llaw wedyn, oblegid yr oedd yr holl wlad yn barod, ac yn galw,—"Tyrd ymlaen, nefol dân, cymer o honom feddiant glân"; ac yn Nhre'rddol a thrwy Humphrey Jones y cyneuodd Duw ef. Teimlwyd nerthoedd mwyaf y Diwygiad mewn ugeiniau o ardaloedd nad ymwelodd na Humphrey Jones na Dafydd Morgan â hwy o gwbl. Nid oedd gwres y tân lawer llai yn Nhalybont nag yn Nhre'rddol, er na weithiodd y Diwygiwr ei hun ddim yno. Dywaid y Parch. O. Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhalybont, "Y mae rhywbeth yn hynod yn yr adfywiad hwn. Y mae popeth yn bur ddistaw, nid oes yma ddim sŵn, dim haint na phla yn y wlad, na dim yn wasgedig yn yr amgylchiadau, dim byd oddi allan yn gwasgu, ond eto, y mae rhyw deimlad dwys, dwfn, a distaw, nes bod hen bobl yn llefain fel plant. . . . Mae cyfnewidiad mawr yn y wlad; y mae'r tafarnau yn gwacau! a'r capeli yn myned yn rhy fychain i gynnal y cynulleidfaoedd trwy'r
- ↑ "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 182.