Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymdogaeth."[1] Yn ystod dau fis ychwanegwyd 170 at aelodau eglwys yr Annibynwyr yn Nhalybont.

Y mae ym mhlwyf Llancynfelyn o ddyddiau bore'r eglwys Wesleaidd ddynion ag iddynt flas mawr ar ddiwinyddiaeth. Bu dadlau brwd am fwy na chenhedlaeth rhwng y Calfiniaid a'r Arminiaid, ac ofnaf y rhoddai'r ddwyblaid bwys mwy ar gredo nag ar grefydd. Unai pawb yn y dadlau-gwyr a gwragedd, pechaduriaid a saint. Trwy y dadlau dygn hwnnw rhoed awch gloyw ar feddyliau'r trigolion, ac ystyrid gwybod diwinyddiaeth uwchlaw pob gwybod. Dywaid y Parch. David Young, a fu'n weinidog yn Nhre'rddol, fod yr Ysgol Sul yn debyg i goleg diwinyddol.[2] Ni thalai pregeth ddim oni fyddai'n braff a phynciol â naws dadlau arni. Eithr parodd nodwedd pregethu Humphrey Jones syndod ar bawb; pregethai ef Efengyl fyw yn syml a syth a dirodres. Anghofiwyd y dadlau tros dro a chafodd y gwirionedd noeth ei gyfle. Peth arall a wnaeth argraff ddofn ac arhosol ar feddwl y sylwgar ydoedd, nerth anarferol personoliaeth y Diwygiwr. Yr oedd yn ei berson allu magnetaidd a wefreiddiai'r gwrandawyr a'u dal yn gaeth. Syllai â her yn ei drem ar y gynulleidfa drwodd a thro ac eilwaith, ac yna craffu ym myw llygaid rhywun cryf oni theimlai hwnnw'n wan a dyfod fel clai yn ei ddwylo. Perthyn y gallu cyfrin a phrin hwn i bob diwygiwr mawr. Yn 1859, yr oedd ym Meddgelert amaethwr annuwiol nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn, a ymffrostiai yn ei allu i wladeiddio a gwneud yn ddirym bob pregethwr a esgynnai i bulpud trwy lygadrythu arno. Cyhoeddwyd y Parch. Dafydd Morgan i bregethu nos Fawrth, Hydref 1, ac ymffrostiai'r gŵr cryf yn nhafarn y pentref yr âi ef i'r oedfa a thaflu'r Diwygiwr oddi ar ei echel. Yn ôl ei arfer taflodd y Diwygiwr gipdrem â thân ynddi trwy'r gynulleidfa a daliodd lygaid yr amaethwr hyf. Craffodd arno a dal i graffu, oni syrthiodd wyneb yr heriwr, eithr ni bu fwy nag eiliad heb herio'r pregethwr

  1. "Y Diwygiwr," Ebrill, 1859.
  2. "The Origin and History of Methodism in Wales" tud. 339.